Gwyddonias: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Figaro-ahp (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: cywiro dyddiadau a fformat
Manion using AWB
Llinell 14:
Pegynau eithafol yw'r categorïau uchod a mae'r mwyafrif o enghreifftiau o ffuglen wyddonol yn cwympo rhywle rhwng y ddau begwn. Er enghraifft, gellid dweud bod y gyfres ''[[Star Trek]]'' yn fwy 'caled' na ''[[Star Wars]]'' ond yn fwy meddal na ''[[Firefly]]''.
 
O fewn y genre cyffredinol, mae nifer draddodiadau gwahanol o ran cyd-destunnau storïol. Defnyddir y term [[Opera Ofod]] (a ddaw o'r cysyniad o [[Opera Sebon]]) i ddisgrifio straeon fel ''[[Star Trek]]'', ''[[Star Wars]]'' a nofelau ''[[The Culture]]'' gan [[Iain M. Banks]]. Fel mae'r enw'n awgyrmu, mae'r straeon epig hyn wedi'u gosod ar longau ofod, neu'n cynnwys teithio rhwng planedau, ac fel arfer yn cynnwys nifer fawr o gymeriadau. Mae creuaduriaid estron o blanedau eraill yn gyffredin mewn Opera Ofod, ond ceir digon o enghreifftiau hebddynt, fel ''[[Firefly]]'' neu ''[[Battlestar Galactica]]''.
 
Math arall o ffuglen wyddonol yw ffuglen ddystopaidd. Mae straeon dystopaidd yn dychmygu dyfodol dywyll i'r ddyniolaeth (neu ran ohonni), yn aml oherwydd llywodraeth [[totalitariaeth|totalitaraidd]] neu effeithiau negyddol technoleg ar gymdeithas neu'r amgylchedd. Mae enghreifftiau o'r math yma o ffuglen wyddonol yn cynnwys y ffilm ''[[Blade Runner]]'' a'r nofel ''[[Nineteen-Eighty-Four]]'' gan [[George Orwell]]. Yn gorgyffwrdd â ffuglen ddystopaidd mae ffuglen ôl-apocalyptaidd, sef ffuglen sy'n dychmygu dyfodol yn dilyn trychineb neu ddigwyddiad a newidiodd y byd yn sylweddol er gwaeth, megis trychineb amgylcheddol neu ryfel catastroffig. Mae engrhefftiau'n cynnwys y ffilimiau ''[[Mad Max]]'' neu'r gyfres gemau cyfrifiadur ''[[Fallout]]''. Gall y gymdeithas sy'n gorosi trychineb o'r fath - os yw'n goroesi o gwbl - feddu ar nodweddion dystopaidd.
Llinell 31:
|deadurl=yes
|df=dmy-all
}}</ref>.
 
=== Ffuglen wyddonol yn y Gymraeg ===