Shwmae, Figaro-ahp! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,472 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Anatiomaros 22:09, 22 Hydref 2009 (UTC)Ateb

Cyfrolau barddoniaeth

golygu

Diolch am eich cyfraniadau at y categorïau o dan erthyglau am gasgliadau o gerddi Cymraeg. Defnyddiol dros ben. Ond roedd y categori [[Categori:Casgliadau o gerddi Cymraeg]] eisoes yn bodoli, er na chafodd ei ddefnyddio rhyw lawer, ac mae hwnnw'n cysylltu â chategorïau eraill. Felly byddaf i'n newid "Cyfrolau o Gerddi Cymraeg" i "Casgliadau o gerddi Cymraeg". Mae'n ddrwg gen i fusnesu. Craigysgafn (sgwrs) 09:26, 11 Hydref 2024 (UTC)Ateb

Dim problem o gwbl a diolch, nai ddefnyddio hwnnw o hyn ymlaen Figaro (sgwrs) 11:48, 11 Hydref 2024 (UTC)Ateb
Newydd ddarllen hanner cyntaf Y nofel Gymraeg; mae hon yn erthygl wych iawn gen ti, yn bapur academaidd mewn gwirionedd, ond yn gwbwl ddealladwy i feidrolyn fel fi; mae hynny'n gamp. Diolch yn fawr iawn am dy gyfraniadau. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:42, 6 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb
Pleser mawr a diolch am fynd i'r drafferth I roi'r adborth. Figaro (sgwrs) 08:18, 6 Tachwedd 2024 (UTC)Ateb