Hanes Brasil: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Dechreuodd '''hanes Brasil''' pan gyrraeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erby...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:03, 18 Mai 2008

Dechreuodd hanes Brasil pan gyrraeddodd y bobl gyntaf tua 8,000 o flynyddoedd yn ôl o Asia; yr adeg honno roedd tir yn cysylltu Asia a chyfandir America yn y gogledd. Erbyn i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd yn y 16eg ganrif, roedd dros 2,000 o lwythau gwahanol yn nhiriogaeth Brasil. Wedi dyfodiad y Portiwgeaid, lleihawyd niferoedd y brodorion yyn fawr gan glefydau megis y frach wen.

Credir mai'r Ewropead cyntaf i ddarganfod Brasil oedd y fforiwr Portiwgeaidd Pedro Álvares Cabral ar 22 Ebrill, 1500. O'r 16eg ganrif hyd y 19eg ganrif roedd Brasil yn rhan o ymerodraeth Portiwgal. Ar 7 Medi, 1822, cyhoeddodd y wlad ei hun yn annibynnol, a daeth yn frenhiniaeth gyfansoddiadol dan yr enw Ymerodraeth Brasil. Wedi i'r fyddin gipio grym yn 1889, daeth y wlad yn weriniaeth. Heblaw am dri cyfnod o lywodraeth unbennaidd yn 1930-1934; 1937-1945 a 1964-1985, mae wedi bod yn weriniaeth ddemoctataidd ers hynny.