Cwpan Nanteos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Cwpan Nanteos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2016 Dysgl masarn (math o lestr yfed) o'r Oesoedd Canol a gedwir a...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Nid yw'n hysbys ymhle a phryd y gwnaed y Cwpan, ond ymddengys ei fod yn dod o [[Abaty Ystrad Fflur]] yn ystod [[Diddymu'r Mynachlogydd]] a'i fod yn cael ei drosglwyddo i feddiant teulu Powell, perchnogion Nanteos.
 
Mae'r Cwpan yn llestr pren caled ([[llwyfen lydanddail]] yn ôl pob tebyg) heb ddolenni, gyda throed wastad eang. Yn wreiddiol, byddai wedi mesur tua 10 cm o uchder a 12 cm ar draws, er ei fod wedi cael ei nifrodi'n helaeth dros y blynyddoedd ac mae llai na hanner y peth yn weddill.
 
Yn unol â'r traddodiad, Cwpan Nanteos yw'r [[Y Greal Santaidd|Greal Sanctaidd]] ei hun, y cwpan yr yfodd Crist a'i ddisgyblion ohono yn y [[Swper Olaf]]. Ers y 19g honnir bod grym iachau goruwchnaturiol yn perthyn i'r Cwpan.