Bwrdd Ffilmiau Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Corff cynhyrchu ffilmiau oedd y '''Bwrdd Ffilmiau Cymraeg''' a ffurfiwyd ym mis Gorffennaf 1970. O ganlyniad i ysgol breswyl ar Gyfryngau Llenyddol Newydd yng [[Gregynog|Ngregynog]], ger y Trallwng, sir Drefaldwy fe'i ffurfiwyd o dan adain Cyngor Celfyddydau Gogledd Cymru. Ei nod oedd annog a hyrwyddo cynhyrchu ffilmiau yn y Gymraeg.
 
Ei enw cychwynnol oedd Panel Ffilmiau Cymraeg Gregynog cyn newid i Bwrdd Ffilmiau'r Gogledd yn 1972 ac yna Bwrdd Ffilmiau Cymraeg yn fuan wedyn. Cynhyrchwyd sawl ffilm cyn i'r bwrdd gael ei ddiddymu ym mis Medi 1986.<ref>{{dyf gwe|url=http://anws.llgc.org.uk/cgi-bin/anw/fulldesc_nofr?inst_id=1&coll_id=56&expand=|teitl=Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, archifau|dyddiadcyrchiad=12 Medi 2017}}</ref>
Llinell 6:
 
==Cynyrchiadau==
Cynhyrchwyd sawl ffilm gofiadwy yn cynnwys un o'r ffilmiau arswyd cyntaf yn Gymraeg, ''[[O'r Ddaear Hen]]'' a'r "comedi tywyll" ''[[Gwaed Ar Y Sêr]]''. Aethpwyd a'r ffilmiau ar daith o Gymru a fe'u dangoswyd i nifer o blant ysgol gynradd; dilynwyd hyn gan storiau papur newydd lle roedd rhieni yn cwyno fod y ffilm wedi eu dangos a dychryn eu plant.<ref>{{dyf newyddion|url=http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/37861237|teitl=Y ffilm wnaeth ddychryn plant Cymru|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=6 Tachwedd 2016|dyddiadcyrchu=12 Medi 2017}}</ref>
 
Ar ôl lansio [[S4C]] yn 1982, ffilm fawr gynta y sianel a ddangoswyd adeg y Nadolig y flwyddyn honno oedd ''[[Madam Wen (ffilm)|Madam Wen]]'', addasiad o nofel antur wedi'i gosod yn Sir Fôn. Yn dilyn helbul am orwario ar y ffilm, syrthiodd y bai ar Gwilym Owen, pennaeth y Bwrdd Ffilmiau a fe'i orfwydwyd i ddiswyddo gan S4C.<ref>{{dyf gwe|url=http://www.bbc.co.uk/cymru/radiocymru/safle/cofio/pages/1982_ffeithiau.shtml|teitl=Cofio: Dyma 1982}}</ref>
 
==Rhestr cynyrchiadau==
* ''[[Yr Hen Dynnwr Lluniau]]'' (1973)
* ''Capeli'' (1974)