Hengwrt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Plasdy ger Dolgellau ym Meirionnydd, de Gwynedd, yw '''Hengwrt'''. Gorwedd i'r gorllewin o Ddolgellau ger Abaty Cymer ger cymer Afon Mawddach ac [[Afon Wnion]...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Plasdy]] ger [[Dolgellau]] ym [[Meirionnydd]], de [[Gwynedd]], yw '''Hengwrt'''. Gorwedd i'r gorllewingogledd-orllewin o Ddolgellau ger [[Abaty Cymer]], ger cymer [[Afon Mawddach]] ac [[Afon Wnion]].
 
Mae'n enwog yn hanes [[llenyddiaeth Gymraeg]] fel cartref i un o'r casgliadau pwysicaf o [[llawysgrifau Cymreig|lawysgrifau Cymreig]]. Daeth y llawysgrifau hyn i feddiant y casglwr llawysgrifau a hynafiaethydd [[Robert Vaughan]] (?1592-1667) o'r Hengwrt yn ystod yr 17eg ganrif. Roeddent yn cynnwys trysorau fel ''[[Llyfr Gwyn Rhydderch]]'', ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'', ''[[Llyfr Taliesin]]'' a ''[[Llyfr Aneirin]]'', ynghyd â thestunau o ''[[Brut y Tywysogion]]'' a [[Cyfraith Hywel|llyfrau cyfraith]]. Arosent yn ddiogel yn llyfrgell enwog Hengwrt am tua 300 mlynedd. Gwelodd yr hynafiaethydd [[Edward Lhuyd]] y llyfrau yno yn [[1696]]. Bu nifer o hynafiaethwyr y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif yn ymweld â'r plasdy i gael gweld a chopïo'r llawysgrifau, yn cynnwys [[Ieuan Fardd]], [[William Owen Pughe]] a [[Iolo Morganwg]]. Etifeddwyd y llyfrgell gan William Watkin Edward Wynne o blas [[Peniarth]] yn [[1859]] ac ar ôl i Syr [[John Williams (casglwr llawysgrifau)|John Williams]] ei phrynu cafodd casgliad Peniarth, yn cynnwys y Llyfr Du, ei roi i'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] newydd yn Aberystwyth.