Abaty Cymer

abaty rhestredig Gradd I yn Llanelltud

Hen abaty Sistersiaidd ger pentref Llanelltyd, ar lan Afon Mawddach tua dwy filltir i'r gogledd o Ddolgellau yn ardal Meirionnydd, Gwynedd yw Abaty Cymer a adeiladwyd yn 1198 gan Arglwydd Hywel, un o wyrion Owain Gwynedd. Saif yr hen abaty yng nghesail cymer Afon Wnion ac Afon Mawddach. Yr hen enw ar y llecyn oedd Cymer Deuddwfr. Enw arall arno oedd Y Faner Gymerbaner yn fenthyciad Cymraeg Canol o'r gair Lladin Canol manerium, "maenor, manor", efallai).

Abaty Cymer
Mathabaty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanelltud Edit this on Wikidata
SirLlanelltud Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr5.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.758155°N 3.8962°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwME001 Edit this on Wikidata

Ym Mehefin 1966 fe'i cofrestrwyd gan CADW fel adeilad Gradd I; rhif cofrestriad: 4738.

 
Abaty Cymer â Chadair Idris yn y cefndir (hen engrafiad, tua 1840)
 
Llestri Cymun Abaty Cymer

Cymer oedd un o'r tai Sistersiaidd olaf i gael eu codi yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1198 gan fynachod o Abaty Cwm Hir dan nawdd Maredudd ap Cynan, cefnder Llywelyn Fawr. Rhoddodd y tywysog Llywelyn ei hun roddion i'r abaty newydd, fel y tyst y siarter Ladin a roddodd i Gymer ym 1209 fel princeps Northwallie ("Tywysog Gogledd Cymru"). Roedd yn dŷ crefyddol Cymreig iawn a chwaraeai ran yng ngwleidyddiaeth yr oes. Fel yn achos abad Aberconwy, er enghraifft, byddai abad Cymer yn cynrychioli Llywelyn Fawr a'i ddisgynyddion mewn trafodaethau gwleidyddol ar adegau. Cynhelid llys ar gylch Llywelyn ap Gruffudd yn graensau'r abaty ym mis Mai 1275 a 1276, eto ym Mai. Ond dioddefodd Cymer am ei gwladgarwch yn sgîl y goresgyniad Seisnig ym 1284 pan gafodd ei ddifrodi.

 
Awyrlun; 2024

Er bod gan yr abaty dir helaeth ar gyfer magu defaid, fe'i nodwyd am ei physgota (mae olion cored yn yr afon ger y safle i'w gweld heddiw) a'i masnach llongau bach. Roedd y diwydiant llaeth a mwyngloddio yn y bryniau yn weithgareddau pwysig hefyd.

Dirywio wnaeth yr abaty ar ôl 1284. Dim ond £12 oedd ei werth ym 1291. Erbyn 1400 dim ond pump o fynachod oedd yno. Ym 1441 daeth dan reolaeth Siôn ap Rhys, "abad" a ddefnyddiai'r abaty er mwyn llenwi ei bocedi ei hun ac enynodd gasineb yn lleol. Ansefydlog iawn fu hanes yr abaty o ganlyniad. Yn ail hanner y bymthegfed ganrif ymddengys ei fod yn cael ei redeg gan fynachod o Loegr, ond dirywio wnaeth yn economaidd o hyd. Roedd yn un o'r olaf o'r tai crefyddol Cymreig i gael ei ddiddymu (oherwydd ei dlodi a'i leoliad anghysbell efallai) ym mis Mawrth, 1537. £51 yn unig oedd ei werth; y tlotaf yng ngogledd Cymru.

Ceir set o hen lestri cymun efydd, a berthynai, meddir, i Abaty Cymer, yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Yr adeiladau

golygu

Nid yw'r abaty'n fawr. Codwyd corff yr eglwys ac adeiladau'r mynachod yn ystod can mlynedd cyntaf bodolaeth Abaty Cymer. Doedd dim transept na phresbytri. Codwyd tŵr gorllewinol sgwâr bychan rywbryd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Cadwraeth

golygu

Mae'r adfeilion prin yng ngofal Cadw ac yn Radd I. Ceir maes parcio bach yn eu hymyl a nifer o adeiladau allanol sydd hefyd wedi'u cofrestru ee y fermdy 'Tŷ Fanner', sy'n Radd II*.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)
  • K. Williams-Jones, "Llywelyn's Charter to Cymer Abbey in 1209" (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd, cyfrol 3 (1957-60), 45-78)

Gweler hefyd

golygu