Den Haag: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Hanes y ddinas: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 17eg ganrif → 17g, 15fed ganrif → 15g, 13eg ganrif → 13g using AWB
Llinell 6:
 
== Hanes y ddinas ==
Sefydlwyd Den Haag yn 1230 pan brynwyd y tir gan yr Iarll Floris IV o Holand i'w ddefnyddio fel preswylfa ar gyfer hela. Gerllaw y tir yr oedd y pwll sydd bellach yn cael ei alw'n Hofvijver. Yn 1248, penderfynodd ei fab a'i olynydd William II, Brenin y Romans, godi palas yno a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel y Binnenhof (Llys Mewnol). Bu farw William yn 1256 cyn y cwblhawyd y gwaith ar y palas, tasg a gyflawnwyd yn rhannol gan ei fab Floris V. Mae'r Ridderzaal (Neuadd y Marchogion) yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer anerchiad blynyddol y Brenin. Mae Den Haag wedi'i ddefnyddio fel canolfan weinyddol gan Ieirll Holand ers y 13eg ganrif13g.
 
Mewn siarter a grewyd yn 1242 y ceir y cyfeiriad cynharaf at y gymuned fel Haga. Erbyn y 15fed ganrif15g, roedd yn cael ei alw'n des Graven hage, sy'n golygu 'Coed yr Iarll', ac o'r 17eg ganrif17g galwyd y ddinas yn 's-Gravenhage. Prin y defnyddir yr enw hwnnw erbyn hyn a 'Den Haag' a welir yn bennaf.
 
O 1588 ymlaen, wedi i'r wlad gael ei rhyddhau o reolaeth [[Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]], Den Haag oedd sedd llywodraeth Gweriniaeth yr Iseldiroedd.
 
Yn 1806 y rhoddwyd hawliau dinesig i Den Haag, a hynny gan [[Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc|Napoleon Bonaparte]]. Wedi'r [[rhyfeloedd Napoleonaidd]], cyfunwyd [[Gwlad Belg]] a'r Iseldiroedd fel Teyrnas Unedig yr Iseldiroedd gyda [[Brwsel]] ac Amsterdam yn brifddinas am gyfnodau o ddwy flynedd am yn ail. Er hynny, arhosodd y llywodraeth yn Den Haag, ac felly y bu wedi i Wlad Belg a'r Iseldiroedd wahanu yn 1830. Tyfodd Den Haag yn gyflym wedi 1850, wrth i ddylanwad y llywodraeth ar gymdeithas yr Iseldiroedd gynyddu. Adeiladwyd nifer o'i strydoedd er mwyn cartrefu'r gweision sifyl a gyflogid gan y Llywodraeth a'r gweinyddwyr oedd yn ymddeol o'u gwaith yng ngweinyddiaeth trefedigaethau'r wlad yn y dwyrain.
 
Difrodwyd y ddinas yn wael yn ystod yr [[Yr Ail Ryfel Byd|Ail Ryfel Byd]]. Adeiladwyd Wal yr Iwerydd trwy'r ddinas a dymchwelwyd rhan o'r ddinas gan y gyfundrefn Naziaidd. Ar 3 Mawrth 1945, bomiodd y Llu Awyr Brenhinol ardal Bezuidenhout trwy ddamwain. Roedd yn targedu rocedi V-2 oedd wedi eu lleoli ym mharc Haagse Bos gerllaw, ond gollyngwyd y bomiau ar ardal boblog a hanesyddol o'r ddinas. Achoswyd difrod eang a lladdwyd 511 o bobl.
 
Am gyfnod yn dilyn y Rhyfel, Den Haag oedd maes adeiladu mwyaf Ewrop. Atgyweirwyd a thyfodd y ddinas yn gyflym, ac roedd 600,000 o bobl yn byw yno erbyn 1965.
 
== Adeiladau ==