Agor y brif ddewislen

Den Haag

dinas yn yr Iseldiroedd

Canolfan llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd a thrigfan Brenin yr Iseldiroedd yw Den Haag ("Cymorth – Sain" ynganiad Iseldireg ) neu ’s-Gravenhage (Cymraeg hefyd Yr Hâg). Mae hefyd yn brifddinas talaith (provincie) Zuid-Holland (De Holland). Gyda phoblogaeth o tua 520,000 a chyfanswm o dros filiwn os yn cynnwys y cymunedau ar y cyrion, hon yw'r drydedd ddinas fwyaf yn y wlad. Er bod llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd wedi'u lleoli yno, nid prifddinas yr Iseldiroedd yw Den Haag. Y brifddinas yw Amsterdam.

Den Haag
Het Plein 2012.jpg
Den Haag wapen.svg
Math dinas fawr, bwrdeistref yn yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
308 Den Haag.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth 539,154 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13G Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Johan Remkes Edit this on Wikidata
Cylchfa amser CET Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Warsaw, Palembang, Nasareth, Bethlehem, Juigalpa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Zuid-Holland Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Arwynebedd 98.12 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr y Gogledd, Q1817801, Q2483305 Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Wassenaar, Leidschendam-Voorburg, Pijnacker-Nootdorp, Rijswijk, Westland, Zoetermeer, Delft Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.0842°N 4.3175°E Edit this on Wikidata
Cod post 2491–2599 Edit this on Wikidata
Corff gweithredol college van burgemeester en wethouders of The Hague Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of The Hague Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Johan Remkes Edit this on Wikidata
Hofvijver a Senedd yr Iseldiroedd

Yn Den Haag y mae pencadlys y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol.

Hanes y ddinasGolygu

Sefydlwyd Den Haag yn 1230 pan brynwyd y tir gan yr Iarll Floris IV o Holand i'w ddefnyddio fel preswylfa ar gyfer hela. Gerllaw y tir yr oedd y pwll sydd bellach yn cael ei alw'n Hofvijver. Yn 1248, penderfynodd ei fab a'i olynydd William II, Brenin y Romans, godi palas yno a ddaeth i'w adnabod yn ddiweddarach fel y Binnenhof (Llys Mewnol). Bu farw William yn 1256 cyn y cwblhawyd y gwaith ar y palas, tasg a gyflawnwyd yn rhannol gan ei fab Floris V. Mae'r Ridderzaal (Neuadd y Marchogion) yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer anerchiad blynyddol y Brenin. Mae Den Haag wedi'i ddefnyddio fel canolfan weinyddol gan Ieirll Holand ers y 13g.

Mewn siarter a grewyd yn 1242 y ceir y cyfeiriad cynharaf at y gymuned fel Haga. Erbyn y 15g, roedd yn cael ei alw'n des Graven hage, sy'n golygu 'Coed yr Iarll', ac o'r 17g galwyd y ddinas yn 's-Gravenhage. Prin y defnyddir yr enw hwnnw erbyn hyn a 'Den Haag' a welir yn bennaf.

O 1588 ymlaen, wedi i'r wlad gael ei rhyddhau o reolaeth Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Den Haag oedd sedd llywodraeth Gweriniaeth yr Iseldiroedd.

Yn 1806 y rhoddwyd hawliau dinesig i Den Haag, a hynny gan Napoleon Bonaparte. Wedi'r rhyfeloedd Napoleonaidd, cyfunwyd Gwlad Belg a'r Iseldiroedd fel Teyrnas Unedig yr Iseldiroedd gyda Brwsel ac Amsterdam yn brifddinas am gyfnodau o ddwy flynedd am yn ail. Er hynny, arhosodd y llywodraeth yn Den Haag, ac felly y bu wedi i Wlad Belg a'r Iseldiroedd wahanu yn 1830. Tyfodd Den Haag yn gyflym wedi 1850, wrth i ddylanwad y llywodraeth ar gymdeithas yr Iseldiroedd gynyddu. Adeiladwyd nifer o'i strydoedd er mwyn cartrefu'r gweision sifyl a gyflogid gan y Llywodraeth a'r gweinyddwyr oedd yn ymddeol o'u gwaith yng ngweinyddiaeth trefedigaethau'r wlad yn y dwyrain.

Difrodwyd y ddinas yn wael yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Adeiladwyd Wal yr Iwerydd trwy'r ddinas a dymchwelwyd rhan o'r ddinas gan y gyfundrefn Naziaidd. Ar 3 Mawrth 1945, bomiodd y Llu Awyr Brenhinol ardal Bezuidenhout trwy ddamwain. Roedd yn targedu rocedi V-2 oedd wedi eu lleoli ym mharc Haagse Bos gerllaw, ond gollyngwyd y bomiau ar ardal boblog a hanesyddol o'r ddinas. Achoswyd difrod eang a lladdwyd 511 o bobl.

Am gyfnod yn dilyn y Rhyfel, Den Haag oedd maes adeiladu mwyaf Ewrop. Atgyweirwyd a thyfodd y ddinas yn gyflym, ac roedd 600,000 o bobl yn byw yno erbyn 1965.

AdeiladauGolygu

  • Amgueddfa Escher
  • Gemeentemuseum (amgueddfa celf)
  • Koninklijke Schouwburg (theatr)
  • Mauritshuis
  • Museon
  • Palas Hedd
  • Paleis Noordeinde (palas brenhinol)

Pobl o'r HaagGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Iseldiroedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato