Robert Peel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Gyrfa wleidyddol: Llaw a llygad -canrifoedd yn bennaf, replaced: 19eg ganrif → 19g using AWB
Llinell 27:
 
==Gyrfa wleidyddol==
Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif19g, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn [[Eglwys Loegr]] rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Credodd Robert Peel bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.
 
Yn 1829, fe gafodd ei wrthdrawiad cyhoeddus cyntaf gyda'i gyd-Dorïaid - arwydd o gwrs dyfodol ei yrfa. Yn y flwyddyn honno, Peel a lywiodd y Mesur Rhyddfreinio Catholigion trwy'r Senedd, gan ganiatáu i Gatholigion ddod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Roedd llawer o'i gyd-Dorïaid yn gweld hyn yn frad ac yn ergyd i oruchfiaeth [[Eglwys Loegr]]. Roedd rhai yn cyhuddo Peel o fradychu ei egwyddorion personol trwy gyflwyno'r Mesur, gan ei fod wedi'i wrthwynebu am ugain mlynedd. Yn wir, cymaint oedd ei ei wrth-Gatholigaeth ar un adeg nes iddo ennill y llysenw "''Organge Peel''" (cyfeiriad at yr Urdd Oren Protestanaidd). Ond roedd cefnogaeth fawr i'r Mesur yn Iwerddon (rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd) lle roedd 80% o'r boblogaeth yn Gatholigion.