T. H. Parry-Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Thomas Herbert Parry-Williams''' ([[21 Medi]] [[1887]]-[[3 Mawrth]] [[1975]]), bardd, ysgrifwr ac athro prifysgol, adnabyddir fel '''T.H. Parry-Williams''' fel rheol. Ef yw awdur y gerdd enwog 'Hon'.
 
Ganed T.H. Parry-Williams yn [[Rhyd-ddu]], lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Roedd yn gefnder i [[Robert Williams Parry]]. Graddiodd mewn [[Cymraeg]] yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1908, yna cymerodd radd arall mewn [[Lladin]] y flwyddyn wedyn. Aeth i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] ac yna i Brifysgolion [[Fribourg (dinas)|Freiburg]] a [[Paris]] i astudio ymhellach. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1920, ac ar ôl ymddeol yn 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth yn 1975.
 
Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|y Gadair]] a'r [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|Goron]] yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond yn 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ac astudiaethau academaidd.