Saint-Étienne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Dinas yn nwyrain Ffrainc a phrifddinas ''département'' Loire yw '''Saint-Étienne''' (Arpitaneg: ''Sant-Etiève''). Saif yn y Massif Central, yn ''région'' [[Rhôn...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:29, 5 Awst 2008

Dinas yn nwyrain Ffrainc a phrifddinas département Loire yw Saint-Étienne (Arpitaneg: Sant-Etiève). Saif yn y Massif Central, yn région Rhône-Alpes, tua 60 km (40 milltir) i'r de-orllewin o Lyon. Mae ar y briffordd sy'n cysylltu Lyon a Toulouse.

Tyfodd y ddinas yn y 16eg ganrif oherwydd pwysigrwydd y ffatri arfau yma. Yn ddiweddarach, daeth y diwydiant glo yn bwysig. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 180,210, a phoblogaeth yr ardal ddinesig (aire urbaine) yn 321,703.