Ynysoedd Malo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cabangwyn (sgwrs | cyfraniadau)
Erthygl newydd ar Sant Malo
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:56, 2 Tachwedd 2017

Sant Malo

Ganwyd Malo tua 525 yn Llancarfan, Bro Morgannwg a bu farw tua 621. Roedd e’n fab i Caradog ab Ynyr Gwent a Derwela ac yn gefnder i Samson. Cafodd e ei addysg yn Llanilltud Fawr a daeth e’n esgob yn Llancarfan. Rhwng 547 a 550 trawyd Prydain gan y ‘Pla Melyn’. Mae natur y Pla Melyn yn aneglur - efallai pla biwbonig, neu newid tymor byr yn yr hinsawdd – e.e. ôl-effeithiau asteroid neu Krakatoa. Aeth Malo â nifer o fynaich i Lydaw i osgoi’r pla, a sefydlon nhw wladfa Gristnogol yno a ddatblygodd yn dref dros y canrifoedd, hynny yw San Malo heddiw. Yn yr iaith Ffrangeg, mae yna ansoddair ‘Malouin/s’ neu ‘Malouine/s’ ar gyfer unrhyw beth sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â (thref) St Malo.

Falklands / Malvinas

Darganfuwyd yr ynysoedd gan Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw ‘Falkland’ (ar ôl trysorydd y Llynges ar y pryd) i’r ynysoedd. Mae dwy brif ynys, East Falkland a West Falkland a 776 o ynysoedd llai (Wiki). Ym 1764, sefydlodd Ffrainc wladfa ar East Falkland ac enwi’r ynysoedd Les Iles Malouines - sef ‘Ynysoedd Malo’ ! Ym 1765, sefydlodd Prydain gaer ar Saunders Island yn y gogledd orllewin. Ym 1766, trosglwyddodd Ffrainc Les Iles Malouines i Sbaen ac addaswyd yr enw yn Sbaeneg i Las Islas Malvinas. Ym 1774, rhoddodd y Saeson y gorau i Saunders Island. Ym 1816, hawliwyd Las Malvinas gan y wladwriaeth newydd o Argentina a sefydlwyd presenoldeb milwrol yno rhwng 1820 ac 1833. Ym 1833, taflwyd yr Archentwyr allan ac ailfeddiannwyd The Falklands gan Brydain. Mae’r ynysoedd wedi aros yn Brydeinig hyd heddiw.  I gadarnhau hawl Prydain i’r Falklands, cafodd nifer o bobl o Brydain eu perswadio i ymgartrefu ar yr ynysoedd. Mae poblogaeth yr ynysoedd heddiw (ac eithrio milwyr) tua 2,931 (2016).