Agor y brif ddewislen

Llancarfan

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref a phlwyf sy'n gorwedd rhwng Y Bont-faen a'r Barri ym Mro Morgannwg yw Llancarfan. Ganwyd yr hynafiaethydd a llenor Iolo Morganwg ym mhentref Pennon yn y plwyf.

Llancarfan
St Cadoc Llancarfan, Glamorgan, Wales.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 736 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Uwch y môr 23 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.417°N 3.367°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000655 Edit this on Wikidata
Cod post CF62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jane Hutt (Llafur)
AS/au Alun Cairns (Ceidwadwr)

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]

Clas LlancarfanGolygu

Roedd Llancarfan yn adnabyddus yn y Gymru gynnar am ei glas (ar safle eglwys Llancarfan heddiw) neu fynachlog gynnar a sefydlwyd gan Sant Cadog yn y 6g. Ceir carreg ag arni arysgrif Ladin o'r 11g neu ddechrau'r ganrif olynnol yn yr eglwys. Yn ôl traddodiad, cedwid llyfr efengylau Gildas yma. Yma hefyd yr ysgrifenwyd Buchedd Sant Cadog yn Lladin gan y mynach Lifris ac ymddengys y bu'n ganolfan dysg bwysig yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Yr enwocaf o lenorion mynachaidd Llancarfan yw Caradog o Lancarfan (fl. 1135), awdur nifer o fucheddau saint. Awgrymwyd o gyfnod y Dadeni ymlaen mai ef a ysgrifennodd Llyfr Llandaf a fersiwn gynharaf Brut y Tywysogion, ond diweddar yw'r traddodiadau hyn ac yn achos y Brut gwyddys bellach ei fod yn ffrwyth sawl awdur a chanolfan yn hytrach na gwaith unigolyn.

Cofnodir anrheithio'r clas gan fôr-ladron Llychlynaidd yn y flwyddyn 988, yn ôl yr Annales Cambriae. Pan feddianwyd Morgannwg gan y Normaniaid rhoddwyd Llancarfan i fynachlog Pedr Sant yng Nghaerloyw a darfu am y clas Cymreig.

Y gorffennol disglair hwn a barodd i Iolo Morgannwg lunio rhai o'i ffugiadau enwocaf sy'n rhoi ffug hanes Sant Cadog a'i fynachlog.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llancarfan (pob oed) (747)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llancarfan) (100)
  
13.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llancarfan) (509)
  
68.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llancarfan) (71)
  
25.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013