Asthma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
diagram
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 5:
 
Mae asthma yn gyflwr cyffredin, tymor hir neu gronig. Mae’n effeithio ar ryw bum miliwn o bobl ym Mhrydain. Yn ystod plentyndod mae asthma yn aml yn dechrau, ond gall ddigwydd am y tro cyntaf i rywun o unrhyw oed. Mae asthma yn effeithio ar y [[anadlu|llwybrau anadlu]] – y tiwbiau sy’n cario aer i mewn ac allan o’ch ysgyfaint. Efo asthma, bydd eich llwybrau anadlu yn sensitif iawn a byddant yn chwyddo ac yn tynhau wrth i chi anadlu unrhyw beth sy’n effeithio ar eich ysgyfaint, fel mwg neu [[Alergen|alergenau]] megis [[paill]]. Mae hyn yn gallu achosi i’ch brest deimlo’n dynn a gwichian, a’i gwneud hi’n anoddach i chi anadlu. Bydd ryw draean o blant sydd ag asthma yn cael problemau pan fyddant yn oedolion. Nid oes gwellhad, ond o gael y driniaeth iawn a’i defnyddio’n gywir, mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld eu bod nhw’n gallu rheoli’u symptomau a byw bywyd normal. O gymharu, mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint(COPD) fel arfer yn effeithio ar bobl hŷn. Mae COPD hefyd yn gallu achosi gwichian, ond mae hyn oherwydd bod y llwybrau anadlu wedi culhau yn fwy parhaol, ar ôl bod yn anadlu rhywbeth llidus(irritant)am gyfnod hir - mwg [[sigarét]] yw’r un mwyaf cyffredin.
[[Delwedd:Asthma before-after-cy.svg|bawd|chwith|Diagram yn dangos y gwahaniaeth yn y llwybr anadlu cyn ac wedi chwiw o asthma.]]
 
== Pathofisioleg ==