Thrace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
Mae '''Thrace''' ([[Groeg]]: Θράκη, ''Thráki''; [[Groeg Attig]]: {{Hen Roeg|Θρᾴκη}} ''Thrāíkē'' neu {{Hen Roeg|Θρῄκη}} ''Thrēíkē''; [[Lladin]]: ''Thracia'') yn ardal yn ne-ddwyrain [[Ewrop]]. Heddiw defnyddir Thrace am diriogaeth sy'n ymestyn dros dde-ddwyrain [[Bwlgaria]] (Gogledd Thrace), gogledd-ddwyrain [[Gwlad Groeg]] (Gorllewin Thrace), a rhan Ewropeaidd [[Twrci]] (Dwyrain Thrace). Gelwir y rhan yn Nhwrci hefyd yn "Rumeli". Roedd yr hen Thrace (y tiriogaethau lle roedd y [[Thraciaid]] yn byw) hefyd yn cynnwys rhan o ddwyrain [[Serbia]] a dwyrain [[Gweriniaeth Macedonia]].
Roedd y Thraciaid wedi ei rhannu yn nifer o lwythau, heb fod wedi uno yn un wladwriaeth. Ymsefydlodd rhai Groegiaid yno o'r 6g CC. ymlaen, a chafodd diwylliant Groeg gryn ddylanwad yn yr ardal. Ymddangosodd rhai Thraciaid, megis [[Orpheus]], ym [[mytholeg
Am gyfnod, roedd Thrace yn nifer o deyrnasoedd hanner-annibynnol dan reolaeth Rhufain, ond wedi cyfnod o derfysg daeth yn dalaith Rufeinig [[Thracia]] yn [[46]]. Roedd y llengoedd yn [[Moesia]] yn gyfrifol am ddiogelwch y dalaith. Yn ddiweddarach bu ymladd am Thrace rhwng yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]] a Bwlgaria, nes i'r [[Ymerodraeth Otomanaidd]] gymeryd meddiant o'r ardal yn y [[14g]] a dal gafael arni am bum canrif.
|