Samui: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd, categori
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Tan yn hwyr yn yr ugeinfed ganrif, cymuned hunan-gynhaliol ynysig oedd Samui, heb fawr ddim o gysylltiadau â gweddill Gwlad Thai ar y tir mawr. Doedd dim ffyrdd ar yr ynys tan y 1970au cynnar a chymerai’r daith 15km o hyd o un ochr o’r ynys I’r llall ddiwrnod cyfan o gerdded trwy’r siwngl mynyddig yng nghanol yr ynys.
 
Erbyn hyn, mae poblogaeth o tua 47000 o bobl ar yr ynys. Ei phrif ffynonnellauffynonellau incwm yw’r diwydiant twristiaeth, yn ogystal ag allforio cnau cocos a rhwber. Mae [[maes awyr]] rhyngwladol bellach ar yr ynys a chanddo deithiau awyr ar yr awr i [[Bangkok]] a nifer o gysylltiadau â meysydd awyr eraill yng Ngwlad Thai ac yn rhanbarth De-ddwyrain Asia. Er bod yr ynys yn hybu delwedd o baradwys heb ei ail, mae’r twf economaidd wedi dod â nid yn unig llewyrch, ond newidiadau yn amgylchedd a diwylliant yr ynys, sydd wedi creu anghydweld rhwng trigolion lleol a mewnfudwyr o rannau eraill o’r wlad ac o dramor. Bydd llong Cunard MS Queen Victoria (llong i dros ddwy fil o deithwyr) yn angori ar Samui yn ystod môr-daith 2008, sy’n adlewyrchu statws a thwf Samui fel lle gwyliau poblogaidd tu hwnt.
 
[[Categori:Ynysoedd Gwlad Thai]]