Seren Tan Gwmmwl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
 
Yna mae'r awdur yn mynd yn ei flaen i ddisgrifio trahauster [[Nimrod]] a hanes y proffwyd [[Samuel]] o'r ''[[Hen Destament]]''. Yn yr adran nesaf ceir hanes [[Gwrtheyrn]], [[Ronwen]] a [[Brad y Cyllyll Hirion]] gan gyfeirio at bennaethiaid twyllodrus y [[Saeson]] ('Germaniaid') fel rhagflaenwyr yr [[Hanoferiaid]] cyfoes (a hwythau'n '[[Yr Almaen|Germaniaid]]' hefyd) a reolai [[Teyrnas Prydain Fawr|Brydain Fawr]]. Mae'n gresynu "coll Prydain" a thynged y [[Brutaniaid]] ([[Cymry]]) fel cenedl dan orthrwm. Wedyn ceir hanes dychanol [[brenhinoedd a breninesau Lloegr]] a'u gorthrwm ar y werin bobl ym mhobman. Yn gymysg â hyn fflangellir [[Eglwys Loegr]] ac yn enwedig ei harfer o orfodi esgobion Seisnig ar y Cymry, a gwleidyddion pwdr [[San Steffan]]. Mae'r traethawd yn cloi ar nodyn gobeithiol: mae'r ''Seren'', sef Seren Rhyddid, am ddod allan eto, fel y mae wedi gwneud yn barod yn yr Amerig a Ffrainc (y [[Chwyldro Americanaidd]] a'r Chwyldro Ffrengig).<ref>''Seren Tan Gwmmwl'' (argraffiad 1923), tt. 1-44.</ref>
 
==Ysbrydoliad i Ffansîn hanes yn yr 1980au==
Defnyddiwyd enw Seren Tan Gwmwl fel enw ar gyfer [[ffansîn]] hanes a gynhyrchwyd gan [[Cymdeithas Iolo Morganwg]] - cymdeithas hanes myfyrwyr Aberystwyth 1988-1990.
 
 
==Cyfeiriadau==