Cafodd ddechrau llwyddianus iawn i'w yrfa fel reolwr drwy arwain Abertawe o'r hen bedwerydd adran i'r adran cyntaf o fewn pedwar tymor. Yn 1984 fe'i benodwyd yn reolwrrheolwr ar Sporting Lisbon ym [[Portiwgal|Mhortiwgal]], ond treuliodd dim ond un tymor yno cyn gadael am [[Sbaen]]. Profodd cryn lwyddiant yno tra'n rheoli Real Madrid ddwy waith, Real Sociedad deir gwaith, Deportivo La Coruna a Real Murcia. Treuliodd gyfnod yn [[Twrci|Nhwrci]]'n rheoli Beşiktaş J.K., AS Saint-Étienne yn [[Ffrainc]] a Catania yn yr [[Eidal]]. Fe'i benodwyd yn reolwrrheolwr ar dîm cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 1994 ond bu ond yn y swydd am 41 diwrnod, cyn ymddiswyddo yn dilyn colled o 3-1 yn erbyn Norwy. Er hyn cafodd ei benodi i'r swydd eto yn Nhachwedd 2004 wrth olynnu [[Mark Hughes]].