Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: deunawfed ganrif → 18g (2), y d18g → y 18g (2) using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 30:
 
==Diwygiad a Gwrth-ddiwygiad==
Ar ddiwedd y [[1530au]] [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymwyd y mynachlogydd]] i gyd. Gyda'r [[Diwygiad Protestanaidd]] gwnaethpwyd Cymru yn wlad Brotestanaidd gydagydag [[Eglwys Loegr]] yn eglwys wladwriaethol Cymru a Lloegr. Yn [[1563]] pasiwyd deddf seneddol yn awdurdodi [[cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg]]. Pedair blynedd ar ôl hynny cyhoeddwyd y [[Testament Newydd]] a'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]] yn Gymraeg. Yna yn [[1588]] cyhoeddodd yr [[Esgob William Morgan]] y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl cyfan, llyfr a fyddai'n cael effaith fawr ar yr iaith [[Gymraeg]] dros y canrifoedd nesaf.
 
Dyma gyfnod o erlid ar y Catholigion. Merthyrwyd [[Richard Gwyn]] yn [[1584]] a gorfodwyd nifer o Gatholigion Cymreig fel [[Gruffydd Robert]] i ffoi i'r cyfandir. Oddi yno gwnaeth y [[Gwrthddiwygwyr Cymreig]] eu gorau i adennill i Gatholigaeth ei lle ym mywyd crefyddol y genedl, ond er iddynt gael peth llwyddiant, fel cyhoeddi'r ''[[Drych Cristionogawl]]'', y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru, yn y dirgel (1586), ofer fu eu hymdrechion yn y diwedd.