Roxana: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 1:
Yr oeddRoedd '''Roxana''' ([[Bactreg]]: '''''Roshanak'''''; "seren fechan ddisglair" neu "goleuni"), yn dywysoges o [[Bactria]] ac yn wraig i [[Alecsander Fawr]]. Cafodd ei geni cyn [[341 CC]], ond does dim sicrwydd am yr union ddyddiad. Roedd hi'n ferch i uchelwr Bactriaidd o'r enw [[Oxyartes]], o [[Balkh]] yn Bactria (yn rhan o [[Ymerodraeth Persia]] ar y pryd, heddiw'n rhan o [[Affganistan]]), a phriododd ag Alecsander yn y flwyddyn [[327 CC]] ar ôl iddo ei dal ar ôl cipio chaer [[Craig Sogdia]]. Balkh oedd yr olaf o daleithiau Ymerodraeth Persia i ddisgyn i ddwylo Alecsander, ac roedd y briodas yn ymgais i gymodi [[satrap]]au Balkh i'w reolaeth, er bod y ffynonellau hynafol yn pwysleisio fod Alecsander, a oedd yn 29 oed erbyn hynny, mewn cariad â hi.
 
Yn ôl yr haneswyr a'r [[rhamant]]au diweddarach, cynhaliodd y brenin briodas rwysgfawr ar ben Craig Sogdia. Gwnaeth y paentiwr [[Groeg]]aidd [[Aetion]] baentiad enwog o'r olygfa a enillodd wobr iddo yng ngŵyl y gemau yn [[Olympia]]. Mae'r darlun ei hun ar goll ond daeth yn adnabyddus trwy ddisgrifiadau gan Rufeinwyr ac yn ddiweddarach byddai'n ysbrydoli'r paentiwr [[Botticelli]].<ref>Robin Lane Fox, ''Alexander the Great'' (1973; argraffiad newydd, Penguin 1986), tt. 312-14.</ref>