Roedd Roxana (Bactreg: Roshanak; "seren fechan ddisglair" neu "goleuni"), yn dywysoges o Bactria ac yn wraig i Alecsander Fawr. Cafodd ei geni cyn 341 CC, ond does dim sicrwydd am yr union ddyddiad. Roedd hi'n ferch i uchelwr Bactriaidd o'r enw Oxyartes, o Balkh yn Bactria (yn rhan o Ymerodraeth Persia ar y pryd, heddiw'n rhan o Affganistan), a phriododd ag Alecsander yn y flwyddyn 327 CC ar ôl iddo ei dal ar ôl cipio chaer Craig Sogdia. Balkh oedd yr olaf o daleithiau Ymerodraeth Persia i ddisgyn i ddwylo Alecsander, ac roedd y briodas yn ymgais i gymodi satrapau Balkh i'w reolaeth, er bod y ffynonellau hynafol yn pwysleisio fod Alecsander, a oedd yn 29 oed erbyn hynny, mewn cariad â hi.

Roxana
Ganwyd347 CC Edit this on Wikidata
Bactria Edit this on Wikidata
Bu farw310 CC Edit this on Wikidata
Amphipolis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBactria Edit this on Wikidata
TadOxyartes Edit this on Wikidata
PriodAlecsander Fawr Edit this on Wikidata
PlantAlexandros IV of Macedon Edit this on Wikidata

Yn ôl yr haneswyr a'r rhamantau diweddarach, cynhaliodd y brenin briodas rwysgfawr ar ben Craig Sogdia. Gwnaeth y paentiwr Groegaidd Aetion baentiad enwog o'r olygfa a enillodd wobr iddo yng ngŵyl y gemau yn Olympia. Mae'r darlun ei hun ar goll ond daeth yn adnabyddus trwy ddisgrifiadau gan Rufeinwyr ac yn ddiweddarach byddai'n ysbrydoli'r paentiwr Botticelli.[1]

Dilynodd Roxana yr ymerodr ar ei gyrch yn India yn 326 CC. Mae'n debyg iddi ddychwelyd trwy Affganistan a gogledd Iran gyda rhan o'r fyddin yn lle mynd gyda Alecsander a'i fyddin ar y daith anodd trwy dde Pacistan ac Iran. Rhoddodd enedigaeth i fab, Alexander IV Aegus, ar ôl marwolaeth ddisymwth Alecsander ym Mabilon yn 323 CC. Ond ar ôl marw Alecsander daeth Roxana a'i fab yn ysglyfaeth i'r cynllwynio gwleidyddol yn sgîl cwymp ac ymddatod ymerodraeth Alecsander. Yn ôl Plutarch, llofruddiodd Roxana weddw arall y brenin, Stateira II, a'i chwaer Drypteis (Pl. Alex. 77.4). Amddiffynnwyd Roxana a'i fab gan Olympias, mam Alecsander, ym Macedon, ond cafodd hi ei hasasineiddio yn 316 CC gan ganiatau i Cassander geisio'r deyrnas. Am fod Alexander IV Aegus yr unig etifedd cyfreithlon i'r ymerodraeth, gorchmynwyd Cassander iddo a'i fam Roxana gael eu llofruddio yn 309 CC.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Robin Lane Fox, Alexander the Great (1973; argraffiad newydd, Penguin 1986), tt. 312-14.