Ac Eraill: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 27:
Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur', 'Tua'r Gorllewin' a 'Chwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o [[Mudiad Adfer|Fudiad Adfer]] ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr [[opera roc]] [[Nia Ben Aur]] a lwyfannwyd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1974|Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin]] ym 1974.
 
Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: '[[Tua'r Gorllewin]]', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.<ref>[https://www.discogs.com/Ac-Eraill-Ac-Eraill/release/8758789 www.discogs.com;] adalwyd 25 Awst 2017.</ref> Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, ''Addewid'' {(SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', '[[Marwnad Yr Ehedydd]]' a 'Faban Bach Clyd'.
 
==Disgograffeg==
Dyma restr o ganeuon gan Ac Eraill. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i [[Cwmni Recordiau Sain]].<ref>[http://www.sainwales.com/cy/ sainwales.com;] adalwyd 29 Awst 2017.</ref>
 
 
{| class="wikitable"