Ac Eraill
Grŵp poblogaidd, Cymraeg a gweriniaethol o'r 1970au oedd Ac Eraill a ffurfiwyd yn 1972. Roedd aelodau gwreiddiol y grŵp, Tecwyn Ifan yn fyfyriwr yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor , Cleif Harpwood, Iestyn Garlick yng Ngholeg y Drindod a Phil Edwards ("Phil Bach") yng Nghaerdydd. Rhyddhawyd tair record fer ar label Sain cyn chwalu ym 1975. Blwyddyn yn ddiweddarach, ailffurfiwyd y grŵp yn un pwrpas er mwyn rhyddhau record hir Diwedd Y Gân, unwaith eto ar label Sain.
Ac Eraill |
---|
Cysylltir y grŵp gyda Mudiad Adfer a'i athroniaeth o ailfeddiannu a datblygu'r Fro Gymraeg yn hytrach na'r ardaloedd a Seisnigiwyd. Yn y cyfnod hwn y gwelwyd y chwyldro cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg yn dod i'w lawn dwf yng Nghymru. O ran cerddoriaeth, dyma flynyddoedd y datblygu mawr ym maes recordiau Cymraeg, a hwnnw’n adlewyrdchu’r bwrlwm a'r creadigrwydd rhyfeddol yn y byd canu gwerin, pop a roc Cymraeg. Yn y byd recordio, hwnnw oedd degawd aur Stiwdio Gwernafalau, Cwmni Recordiau Sain. Yn ennill eu lle yn rheng flaen y chwyldro cerddorol hwnnw mae Ac Eraill, y lleisiau llawn harmoni, wedi eu priodi â chaneuon gafaelgar a heriol Tecwyn Ifan, y peiriant a yrrai'r drol, ond ymunodd Phil Edwards, Iestyn Garlick a Alun 'Sbardyn' Huws a ddaeth i'r amlwg drwy Ac Eraill, ynghyd â Cleif Harpwood, Huw Bala a John Morgan.[1]
Tecwyn Ifan oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf o ganeuon Ac Eraill. Erbyn heddiw mae rhai fel 'Nia Ben Aur' ar y cyd efo Clive Harpwood, 'Tua'r Gorllewin' a 'Chwm Nant Gwrtheyrn' yn cael eu hystyried fel clasuron. Roedd yr awdur yn aelod blaenllaw o Fudiad Adfer ac mae themâu llawer o'i ganeuon yn dyst i hynny. Cyfrannwyd nifer o ganeuon at yr opera roc Nia Ben Aur a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974.
Eu record gyntaf oedd honno o'r un enw a'r grŵp ac a ryddhawyd ar label Sain (SAIN 34E) yn 1973 ac roedd yn cynnwys 4 cân: 'Tua'r Gorllewin', 'Dianc', 'Carchar' a 'Hen Wr o'r Coed'.[2] Ar feinyl 7" hefyd, flwyddyn yn ddiweddarach, y rhyddhawyd eu hail record, Addewid (SAIN 43E) a oedd yn cynnwys 'Cwm Nantgwrtheyrn', 'Catraeth', 'Marwnad Yr Ehedydd' a 'Faban Bach Clyd'.
Disgograffeg
golyguDyma restr o ganeuon gan Ac Eraill. Nid yw'r rhestr yn orffenedig, ac mae'r ffeiliau yn dameidiau i aros pryd, sef y 30 eiliad cyntaf o'r traciau a recordiwyd ar label/i Cwmni Recordiau Sain.[3]
Teitl y gân | Clip sain | Blwyddyn cyhoeddi | Rhif Catalog |
---|---|---|---|
Aderyn Bach | 2015 | Sain SCD2729 | |
Baban Bach Clud | 2015 | Sain SCD2729 | |
Becca | 2015 | Sain SCD2729 | |
Catraeth | 2015 | Sain SCD2729 | |
Cenwch im Gan | 2015 | Sain SCD2729 | |
Cwm Nantgwrtheyrn | 2015 | Sain SCD2729 | |
Dilyniant o Ganeuon Mor | 2015 | Sain SCD2729 | |
Dyn Dall | 2015 | Sain SCD2729 | |
Ffa La La | 2015 | Sain SCD2729 | |
Glannaur Lli | 2015 | Sain SCD2729 | |
Gwely Bwrdd a Beibl | 2015 | Sain SCD2729 | |
Gwin | 2015 | Sain SCD2729 | |
Hen Wr or Coed | 2015 | Sain SCD2729 | |
Llais y Fro | 2015 | Sain SCD2729 | |
Maer Werin yn Fyw | 2015 | Sain SCD2729 | |
Marwnad yr Ehedydd | 2015 | Sain SCD2729 | |
Nia Ben Aur | 2015 | Sain SCD2729 | |
Te Deg | 2015 | Sain SCD2729 | |
Tuar Gorllewin | 2015 | Sain SCD2729 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.sainwales.com; Archifwyd 2017-04-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Awst 2017.
- ↑ www.discogs.com; adalwyd 25 Awst 2017.
- ↑ sainwales.com; adalwyd 29 Awst 2017.