Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Canolbarth Cymru"

Ychwanegwyd 584 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
B (sillafu)
(ehangu)
[[Delwedd:Canolbarth Cymru.png|bawd|200px|Canolbarth Cymru]]
 
Un o [[Rhanbarthau Cymru|ranbarthau]] answyddogol [[Cymru]] sydd yng nghanol y wlad yw '''Canolbarth Cymru'''. Mae'n ffinio â [[Gogledd Cymru]] i'r gogledd, [[Y Mers|Gororau]] [[Lloegr]] i'r dwyrain, [[De Cymru|De]] a [[Gorllewin Cymru]] i'r de a [[Bae Ceredigion]] i'r gorllewin. Mae'n cynnwys bryniau'r [[Elenydd]], [[Fforest Faesyfed]] a rhan o'r [[Berwyn]], a'r afonydd [[Afon Teifi|Teifi]], [[Afon Gwy|Gwy]], [[Afon Hafren|Hafren]] ac [[Afon Ystwyth|Ystwyth]].
 
Yn hanesyddol, buroedd GanolbarthCanolbarth Cymru yn cynnwys [[Teyrnas Powys]] a gogledd-ddwyrain [[Teyrnas Deheubarth]]. Heddiw, mae'n cynnwys [[Siroedd a Dinasoedd Cymru|siroedd]] [[Sir Ceredigion|Ceredigion]] a [[Powys|Phowys]].
 
Ceir ymraniadau sylweddol yn ddaearyddol a diwylliannol o fewn y rhanbarth. I'r gorllewin o fynydd [[Pumlumon]] a bryniau [[Elenydd]] ceir Ceredigion, sir sy'n wynebu ar Fae Ceredigion ac yn perthyn yn agosach, yn hanesyddol, i [[Sir Benfro]] a [[Sir Gaerfyrddin]] ([[de-orllewin Cymru]]) nag i Bowys. Mae Powys yntau, sef dwyrain y rhanbarth, yn llawer mwy [[Cymraeg]] yn y parthau gorllewinol nag yn yr ardaloedd ar hyd y ffin â Lloegr a fu'n rhan o'r [[Y Mers|Mers]] canoloesol. Mae cryn wahaniaeth rhwng gogledd a de Powys hefyd.
 
==Gweler hefyd==
*[[Ceredigion]]
*[[Powys]]
*[[Rhanbarthau Cymru]]
 
{{eginyn Cymru}}
{{Rhanbarthau Cymru}}
 
[[Categori:Canolbarth Cymru| ]]
[[Categori:Rhanbarthau Cymru]]
{{eginyn Cymru}}
 
[[en:Mid Wales]]