Defnyddiwr:Twm Elias/Anifeiliaid amrywiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
→CEFFYLAU: adio cod i wneud hi'n haws i rywun gopio |
||
Llinell 143:
==CEFFYLAU==
Dofwyd ceffylau ym Mhrydain cyn gynhared â'r Oes Neolithig (neu [[Oes Newydd y Cerrig]]) ond ni cheir tystiolaeth
Yng [[Cyfraith Hywel|Nghyfraith Hywel]] disgrifir y ceffyl marchogaeth, y pynfarch a'r ceffyl gwaith a dynnai [[car llusg|gar llusg]] neu og. Fel arfer gwaith yr [[ychen|ychain]] oedd tynnu'r aradr a rhaid oedd aros tan y [[18g]] i'r wedd geffylau eu disodli. Canmola [[Gerallt Gymro]] yn 1188
Dan Harri'r 8fed gwaharddwyd ceffylau bychain, a thebyg mai codi'r gwaharddiad hwnnw gan Elisabeth 1af a boblogeiddiodd yr enwau Bess a Queen ar gesyg oddi ar hynny. Yn 1740 gwaharddwyd ceffylau bychain o'r caeau rasio a phan ryddhawyd un ohonynt, stalwyn o'r enw Merlin, ar fryniau [[Rhiwabon]], enwyd ei ddisgynyddion, a'u math, yn ferlynnod, merlod, merliwn a.y.b. Bu llawer o ddatblygu ar ferlod a chobiau trwy'r [[19g]] ar gyfer marchogaeth a thynnu cerbydau ysgafn. Roedd galw mawr hefyd am ferlod i'r pyllau glo a chobiau'n geffylau gwaith yn yr ucheldiroedd. Sefydlwyd y ''Llyfr Gre Cymreig'' yn 1901 gyda phedair adran:
:A - merlod mynydd bychain; :B - merlod; :C - merlod o fath y cob; :D - cobiau, oll o bwys ac enwogrwydd rhyngwladol erbyn heddiw. Tardda'r ceffylau gwedd o geffylau mawr cryfion y marchogion [[Normaniaid|Normanaidd]] a enillodd frwydr Hastings i [[Gwilym Goncwerwr]]. Bu cryn ddatblygu ar geffylau rhyfel o'u bath dros y 500 mlynedd nesa.
Gyda chwyldroadau [[diwydiant|diwydiannol]] ac [[amaethyddiaeth|amaethyddol]] y [[18g]] addaswyd y ceffylau mawrion i bwrpas amaethyddol a datblygwyd offer amaethyddol penodol ar eu cyfer. Roedd y galw cynyddol am geffylau trymion i dynnu wageni strydoedd yn ysgogiad arall i amaethwyr fagu ceffylau gwedd a chwiliai porthmyn a dilars am barau neu bedwaroedd oedd yn cyd-fynd o ran maint, lliw a phatrwm ar gyfer gwahanol gwmnïau a bragdai a.y.b.. I wella'r stoc llogid stalwyni pedigri o bob cwr o'r deyrnas gan Gymdeithasau Sirol i'w harddangos mewn sioeau ac yna eu gyrru ar gylchdeithiau rheolaidd i wasanaethu cesyg y fro. Allforid llawer o geffylau ifainc i ddinasoedd Lloegr ar y rheilffyrdd a gwrthgyferbynnir effaith economaidd y ceffylau'n gadael a'r arian yn dod i mewn i'r cyfnod diweddarach pan ddeuai tractorau i mewn a'r arian yn mynd allan.
Ar ddechrau'r [[20g]] roedd 175,000 o geffylau gwedd ar waith ar ffermydd Cymru. Gyrrwyd niferoedd mawr ohonynt i [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Ffrainc yn 1914-18]],
Daeth cystadleuthau marchogaeth yn boblogaidd mewn
==GWARTHEG==
|