Tywyn, Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Trigolion nodedig: Rhedeg AWB i glirio gwallau, replaced: d18g → 18g using AWB
Llinell 200:
*Arthur ap Huw: Roedd 'Syr' Arthur ap Huw (a elwid weithiau yn Arthur Hughes)yn ŵyr i Hywel ap Siencyn ab Iorwerth o Ynysymaengwyn ac yn ficer Eglwys Cadfan yn Nhywyn rhwng 1555 a'i farwolaeth yn 1570. Roedd hefyd yn noddwr nodedig i'r beirdd.<ref>Fychan, Cledwyn. 1979. Canu i wŷr eglwysig gorllewin Sir Ddinbych. ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych'', 28, p. 120.</ref> Fe'i cofir am ei gyfieithiad Cymraeg o destun [[Gwrth-Ddiwygiad|gwrth-ddiwygiadol]] George Marshall, ''A Compendious Treatise in Metre'' (1554).<ref>Bowen, Geraint. 1956. [http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1280432/article/000040032 Arthur ap Huw]. ''Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru'', 9.3, t. 376.</ref>
*Dafydd Jones: Roedd nai Arthur ap Huw, David neu Dafydd Johns (a elwid weithiau'n David Jones neu David ap John, bl. 1572-98) yn ffigwr arall amlwg yn y [[Dadeni Dysg]] yng Nghymru.<ref>{{ODNBweb|id=14987|last=Roberts|first=Brynley F.|title=Johns, David (fl. 1572–1598)|year=2004}}</ref> Roedd yn or-or-ŵyr i Hywel ap Siencyn, ac fe gopïodd lawysgrif bwysig o [[cywydd|gywyddau]] ([[Llyfrgell Brydeinig]] Additional MS 14866) sydd yn cynnwys nifer o gerddi i deulu Ynysymaengwyn.
*Edward Morgan: Ceir nifer o gerddi o'r d18g[[18g]] i'r teuluoedd Owen a Corbet o Ynysymaengwyn ac i'r Parchedig Edward Morgan.<ref>Owen, Bob, 1962. Cipolwg ar Ynysymaengwyn. ''Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Meirionnydd'', 4.2, tt. 97-118.</ref> Roedd Edward Morgan (m. 1749) yn frodor o [[Llangelynnin (Meirionnydd)|Langelynnin]], yn frawd i'r llenor ac ysgolhaig [[John Morgan (ysgolhaig)|John Morgan]] (Matchin), ac yn ficer Eglwys Cadfan o 1717; ef oedd un o berchnogion llawysgrif David Johns yn ystod rhan gyntaf y 18g.
*Griffith Hughes: Un o blwyf Tywyn oedd y Parchedig [[Griffith Hughes]] (1707–c.1758). Ef oedd awdur ''The Natural History of Barbados'' (1750), cyfrol sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o'r [[grawnffrwyth]].
*Ieuan Fardd: Roedd y Parch. [[Evan Evans (Ieuan Fardd)]] (1731–88) yn gurad Eglwys Cadfan rhwng 1772 a 1777. Yn ystod ei gyfnod yn Nhywyn bu'n athro barddol ar [[David Richards (Dafydd Ionawr)]], (1752-1827), y bardd o Lanyrafon ger [[Bryn-crug]].