Gwasg argraffu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: Canrifoedd a manion using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Dyfais sy'n gwasgu [[inc]] ar bapur neu wyneb rall i'w [[argraffu]], yw '''gwasg argraffu''' (neu'n syml, '''y wasg'''). Roedd datblygiad ac ymlediad y wasg yn un o ddigwyddiadau mwyaf dylanwadol yr ail fileniwm gan iddi greu chwyldro deallusol a chymdeithasol, nodi cychwyn [[y cyfryngau torfol]], a hebrwng yr oes fodern i mewn. Yr Almaenwr [[Johannes Gutenberg]] a ddyfeisiodd y wasg argraffu tua'r flwyddyn 1440, pan greeodd [[gwasg sgriwio|wasg sgriwio]].<ref>Kapr, Albert. ''Johannes Gutenberg: The Man and His Invention'' (Aldershot, Scolar Press, 1996).</ref> Defnyddir gwasg argraffu i gyhoeddi llyfrau a phapurau newydd. Dros gyfnod o amser trodd y gair 'gwasg' i olygu nid yn unig y peiriant metal a ddefnyddiwyd, ond hefyd y cwmni a'i defnyddiai; daw'r gair o'r weithred o wasgu'r teip yn erbyn arwyneb y papur.
 
Cyn [[14c]] y dull arferol o argraffu gwybodaeth oedd drwy ddefnyddio blociau o bren, neu ysgythru defnydd fel lledr. Pan ddyfeisiodd Gutenberg fold i greu [[teip symudol]], daeth yn broses yn llawer cynt, ac felly'n fasnachol bosobl.
 
==Gweisg yng Nghymru==