Eiddew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 52:
Mae lle arbennig i’r eiddew H. helix agg. yn ecoleg y goedwig ac yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Sail yr arbenigrwydd yma yw ei dymor blodeuo a ffrwytho (ffenoleg), a’r ffaith ei fod yn fythwyrdd.
 
'''Ffenoleg'''</br>
Mae’r eiddew yn blodeuo yn yr hydref ac yn ffrwytho yn y gwanwyn a thrwy hynny yn cynnig manteision ecolegol pwysig. Mae’r blodau felly yn cynnig paill i bryfed ar adeg pan fo paill fel arall yn brin. Yn yr un modd mae ffrwythau yn y gwanwyn yn cynnig bwyd maethlon i adar (ysguthanod, bronfreithod ayb.). Mae manteision hyn i’r pryfed ac i’r adar yn amlwg. Llai amlwg efallai yw’r manteision i’r planhigyn ei hunan. Mae’n debyg mai osgoi cystadleuaeth am wasgarwyr paill a hadau sydd i gyfrif am patrwm hyn.
 
'''Gwyrddni gaeaf'''</br>
 
Mae’r eiddew yn un o’r ychydig blanhigion prennaidd yng Nghymru sydd yn cadw ei ddail drwy’r flwyddyn.