Eiddew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Ecoleg |
|||
Llinell 48:
== Ecoleg ==
Mae lle arbennig i’r eiddew ''H. helix'' agg. yn ecoleg y goedwig ac yng nghefn gwlad yn gyffredinol. Sail yr arbenigrwydd yma yw ei ffenoleg, ei dymor blodeuo yn yr hydref) a ffrwytho
'''Ffenoleg'''
Mae’r eiddew yn blodeuo yn yr hydref ac yn ffrwytho yn y gwanwyn a thrwy hynny yn cynnig manteision ecolegol pwysig. Mae’r blodau felly yn cynnig paill i bryfed ar adeg pan fo paill fel arall yn brin. Yn yr un modd mae ffrwythau yn y gwanwyn yn cynnig bwyd maethlon i adar (ysguthanod, bronfreithod ayb.). Mae manteision hyn i’r pryfed ac i’r adar yn amlwg. Llai amlwg efallai yw’r manteision i’r planhigyn ei hunan. Mae’n debyg mai osgoi cystadleuaeth am wasgarwyr paill a hadau sydd i gyfrif am patrwm hyn.
|