Ivor Richard, Barwn Richard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B manion teipio
Llinell 46:
Enillodd Richard y sedd o ychydig dros 1,000 o bleidleisiau. Yn y Senedd, bu'n gwasanaethu am gyfnod byr fel cynorthwyydd i [[Denis Healey]], yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn ac fe'i benodwyd fel Gweinidog ar gyfer y Fyddin yn 1969. Er gwaethaf y gogwydd i'r Ceidwadwyr yn etholiad 1970 roedd yn lwcus i gadw ei sedd, a daeth yn llefarydd yr wrthblaid ar delathrebu. Collodd y swydd pan bleidleisiodd o blaid ymuno â'r [[Yr Undeb Ewropeaidd|Gymuned Ewropeaidd (Y Farchnad Gyffredin)]] yn 1971, ond fe'i ailbenodwyd yn gyflym fel llefarydd Materion Tramor.
 
Fodd bynnag, roedd Baron's Court yn sedd yn rhy fach i oroesi yyr addrefnuadrefnu etholaethau a ddigwyddodd yn 1974 a cafodd Richard hi'n anodd i ddod o hyd i sedd newydd, am nad oedd aelodau o blaid Ewrop yn boblogaidd o fewn y Blaid Lafur ar y pryd. Cafodd ei ddewis ar y funud olaf i ymladd Blyth yn erbyn yr aelod AS Llafur blaenorol a oedd wedi ei ddad-ddethol oherwydd ei honiadau o lygredd lleol yn y Blaid Lafur lleol. Heb unrhyw gefndir yn yr ardal, a gyda gwrthwynebydd poblogaidd, fe'i gurwyd yn yr etholiad.
 
Wrth i'r Llywodraeth Lafur newydd ddod fewn yn Mehefin 1974, penodwyd ef yn Gynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Gyfunol i'r Cenhedloedd Enedig, lle gwasanaethodd am bum mlynedd. Chwaraeodd Richard ran yn ceisio cymodi'r ddau ochr yng nghwrthdaro y Dwyrain Canol a Rhodesia.<ref>{{Citation|title=Britain and the politics of Rhodesian independence|author=Elaine Windrich|url=https://books.google.com/books?id=ZaYOAAAAQAAJ|page=264}}</ref> Daeth yn ffigwr dadleuol ar ôl i Lysgennad yr U.D.A, Daniel Patrick Moynihan, feirniadu'r Cenhedloedd Unedig am basio cynnig yn datgan bod [[Seioniaeth]] yn ffurf o hiliaeth, a cyhuddodd Richard ef o ymddwyn "fel y Wyatt Earp gwleidyddiaeth ryngwladol"; yn fuan wedi hynny diswyddwyd Moynihan gan [[Henry Kissinger]].
Llinell 56:
Dychwelodd Richard i Gymru ym 1985 ac fe'i penodwyd yn Gadeirydd World Trade Centre Wales Ltd., oedd yn ceisio denu buddsoddwyr rhyngwladol i fusnesau Cymru. Yn 1990, fe'i ddewiswyd gan Blaid Lafur fel 'Arglwydd Gweithiol', a fe'i wnaed yn Arglwydd Oes ar 14 Mai 1990 gan cymryd y teitl '''Barwn Richard''', o [[Rhydaman|Rydaman]] yn [[Dyfed|Sir Ddyfed]]<ref>{{London Gazette |issue=52141 |date=17 May 1990 |startpage=9287}}</ref> a daeth yn llefarydd yr wrthblaid yn [[Tŷ'r Arglwyddi|nhŷ'r Arglwyddi]]. Gwnaeth ei arddull bargyfreithiol arwain at ei benodiad fel Arweinydd Arglwyddi Llafur o 1992, a chafodd ei benodi i'r Cyfrin Gyngor. Ceisiodd Richard ddwysáu ymosodiad Llafur yn erbyn y Llywodaeth ac yn hwyr yn 1993 arloesoedd [[Pleidlais o ddiffyg hyder|cynnig o ddiffyg Hyder]] yn y Llywodraeth (cam ddigynsail yn Nhŷ'r Arglwyddi), er ei fod yn cydnabod ei fod yn arwydd symbolaidd na fyddai'n gwneud i'r llywodraeth gywmp, oherwydd y flaenoriaeth a roddir i'r [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Tŷ Cyffredin]].<ref>[http://hansard.millbanksystems.com/lords/1993/dec/01/government-policies-confidence]</ref>
 
Pan enillodd Llafur yr etholiad 1997, daeth Richard daeth yn Arglwydd y Sêl Gyfrin ac Arweinydd Tŷ'r Arglwyddi. Gyda Llafur yn ffafrio diwygio y Tŷ a dechrau drwy gael gwared o'r Arglwyddi Etifeddol, dechreuodd Richard y gwaith ar gyfansoddiad newydd y Tŷ, ond cafodd sioc pan collodd ei swydd yn sydyn ar yr ad-drefnu cyntaf ym mis Gorffennaf 1998 lle fe'u ddisodlwyddisodlwyd gan y Farwnes Jay o Paddington. Cafodd ei feddyliau ar y broses o ddiwygio'r y Tŷ eu cyhoeddi yn ''Unfinished Business'' yn 1999 a daeth Richard yn ffrind beirniadol o'r Llywodraeth.
 
Yn ddiweddarach, gwasanaethodd yr Arglwydd Richard fel Cadeirydd y Cyd-Bwyllgor Seneddol ar Ddrafft Mesur Diwygio Tŷ'r Arglwyddi.<ref>[http://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/joint-select/draft-house-of-lords-reform-bill/publications/ www.parliament.uk] {{webarchive|url=https://web.archive.org/web/20111103184709/http://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/joint-select/draft-house-of-lords-reform-bill/publications/ |date=3 November 2011 }}</ref> Bu farw ym mis Mawrth 2018 yn 85 mlwydd oed.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/gwleidyddiaeth/515532-marwr-arglwydd-oedd-weld-bwerau-gymru|teitl=Marw’r Arglwydd oedd am weld mwy o bwerau i Gymru|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=20 Mawrth 2018|dyddiadcyrchu=20 Mawrth 2018}}</ref>