Thomas Levi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Gweinidog, awdur a golygydd oedd '''Thomas Levi''' (12 Hydref 1825 - 16 Mehefin 1916). Ganed ef ym Mhenrhos, gerllaw Ystradgynlais, a bu'n gweithio yng mab ngwai...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:15, 16 Chwefror 2009

Gweinidog, awdur a golygydd oedd Thomas Levi (12 Hydref 1825 - 16 Mehefin 1916).

Ganed ef ym Mhenrhos, gerllaw Ystradgynlais, a bu'n gweithio yng mab ngwaith haearn Ynyscedwyn. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ystradgynlais tua 1855-60. Bu'n weinidog yn Nhfreforus o 1860 hyd 1876, yna yn Aberystwyth hyd 1901.

Sefydlodd Trysorfa'r Plant yn 1862, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn hyd 1911; yn y cyfnod yma, cyrhaeddodd y cylchrediad 44,000 y mis. Ysgrifennodd 30 o lyfrau gwreiddiol.

Gweithiau

  • Hanes Prydain Fawr 1862
  • Bywyd a Theithiau Livingstone 1857
  • Gweddiau Teuluaidd 1863
  • Hanesion y Beibl 1870
  • Casgliad o Hen Farwnadau 1872
  • Hanes y Beibl Cymraeg 1876
  • Traethodau Bywgraffyddol 1882