Democratiaeth gymdeithasol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Ideolegau}} Ideoleg sydd yn gysylltiedig â sosialaeth a'r mudiad llafur yw '''democratiaeth gymdeithasol''' sydd yn cydnabod strwythur democ...' Tagiau: Golygiad cod 2017 |
ehangu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 1:
{{Ideolegau}}
[[Ideoleg]] economaidd a gwleidyddol sydd yn gysylltiedig â [[sosialaeth]] a'r mudiad llafur yw '''democratiaeth gymdeithasol''' sydd yn cydnabod strwythur [[democratiaeth|ddemocrataidd]] y wladwriaeth ac yn dadlau dros ei newid drwy ddiwygio yn lle chwyldro.
Mae democratiaeth gymdeithasol a [[comiwnyddiaeth|chomiwnyddiaeth]] yn rhannu'r un gwreiddiau, sef sosialaeth y 19g ac ysgrifau [[Karl Marx]] a [[Friedrich Engels]]. Mae democratiaeth gymdeithasol yn osgoi'r ysbryd milwriaethus a llywodraeth [[totalitariaeth|dotalitaraidd]] sydd yn nodweddion o gomiwnyddiaeth. Yn hytrach, dadleuodd dros drawsnewidiad heddychlon o [[cyfalafiaeth|gyfalafiaeth]] i sosialaeth drwy'r broses wleidyddol ac ymgyrchoedd cymdeithasol.
Yn ail hanner yr 20g, datblygodd athrawiaeth gymedrol o ddemocratiaeth gymdeithasol sydd yn arddel [[rheoliad|rheoleiddio]] yn hytrach na pherchenogaeth gan y wladwriaeth. Mae'r ffurf hon felly yn derbyn y system gyfalafol ond yn ceisio ei rheoli. Y prif nodwedd arall ohoni yw'r bwriad i gynnal y boblogaeth drwy'r [[gwladwriaeth les|wladwriaeth les]]. Mae democratiaeth gymdeithasol yn wahanol i sosialaeth ddemocrataidd, sydd yn debyg i [[Marcsiaeth|Farcsiaeth]]-[[Leniniaeth]] yn ei gwrth-gyfalafiaeth ond nid yn ei agwedd tuag at ddemocratiaeth.
== Darllen pellach ==
Llinell 6 ⟶ 10:
[[Categori:Democratiaeth|Cymdeithasol]]
[[Categori:Ideolegau economaidd]]
[[Categori:Ideolegau gwleidyddol]]
[[Categori:Sosialaeth]]
{{eginyn gwleidyddiaeth}}
|