Labordy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn
Tagiau: Golygiad cod 2017
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Lab bench.jpg|bawd|Labrdy [[biocemeg]] modern ym [[Prifysgol Cwlen|Mhrifysgol Cwlen]].]]
[[Delwedd:Chemielabor des 18. Jahrhunderts, Naturhistorisches Museum Wien.jpg|bawd|Labordy cemeg o'r 18ed ganrif.]]
Ystafell neu adeilad er [[ymchwil]] [[gwyddoniaeth|gwyddonol]] neu gynhyrchu [[cemegyn|cemegion]] ydy '''labordy'''.<ref>{{dyf GPC |gair=labordy |dyddiadcyrchiad=13 Ebrill 2018 }}</ref> Gweithdy ydyw i gynnal [[arbrawf|arbrofion]] rheoledig neu i gymeryd [[mesuriad]]au gwyddonol mewn amgylchedd dan reolaeth. Ceir labordai mewn ysgolion, colegau, diwydiant a chyrff cyhoeddus a milwrol a hyd yn oed ar longau a rocedi. Gall y nifer sy'n gweithio mewn labordy amrywio o un person i uwch na 30. Wethiau defnyddir y gair yn llac am lefydd ymchwil tebyg, er enghraifft labordy ffilm neu labordy iaith.
 
Mae'r labordy cemegol yn cynnwys nifer o ddarnau offer arbennig, gan gynnwys amryw wydrau ([[tiwb profi|tiwbiau profi]], fflasgiau, biceri), [[clorian]]nau, a [[llosgydd Bunsen]]. Byddai'r rhai sydd yn y labordy yn gwisgo côt neu ffedog ac yn rhagofalu, er enghraifft drwy wisgo menig a sbectol diogelwch.