Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Crefydd: Beibl 1588, anghydffurfiaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
geneteg
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 25:
 
Beirniada'r newid ystyr hwn yn llym gan yr academyddion [[Simon Brooks]] a [[Richard Glyn Roberts]], sy’n ei weld "yn gyfystyr ag annilysu bodolaeth y ''Cymry'' fel grŵp ieithyddol cydlynol ystyrlon" ac yn "enghraifft arwyddocaol o natur synthetig, ormesol cenedligrwydd sifig Cymreig".<ref>Simon Brooks a Richard Glyn Roberts (gol.), ''Pa beth yr aethoch allan i'w achub?'' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2013), tt. 24–25.</ref> Dadleua Brooks a Roberts y dylsai’r iaith Gymraeg gadw ystyr draddodiadol yr enw, gan ddynodi siaradwyr Cymraeg yn unig beth bynnag eu tras neu fan geni.
 
== Geneteg ==
Yn ôl astudiaeth gymharol o [[DNA]] [[Saeson]], Cymry, [[Norwyaid]], a [[Ffrisiaid]] gan Michael E. Weale et al., mae'r Saeson yn rhannu perthynas amlwg â'r Ffrisiaid ac yn wahanol iawn i'r Cymry, sydd yn cadarnhau nad yw'r Saeson yn hanu'n bennaf o frodorion Prydain. Grŵp genetig oedd yr [[Eingl-Sacsoniaid]] felly ac nid diwylliant yn unig, a chafodd DNA trigolion Lloegr ei newid yn barhaol gan fewnlif ar o setlwyr [[pobloedd Germanaidd|Germanaidd]] ar raddfa eang. Mae nodweddion ar wahân DNA y Cymry yn awgrymu i etifeddiaeth genetig y Brythoniaid oroesi yng Nghymru.<ref>Michael E. Weale et al. "[https://academic.oup.com/mbe/article/19/7/1008/1068561 Y Chromosome Evidence for Anglo-Saxon Mass Migration]", ''Molecular Biology and Evolution'', cyfrol 19, rhifyn 7 (1 Gorffennaf 2002), tt. 1008–1021.</ref>
 
{{cyfryngau allanol |delwedd-1=[https://www.peopleofthebritishisles.org/sites/default/files/peopleofthebritishisles/documents/media/mapcolor1100.pdf Map o glystyru genetig ym mhoblogaeth y DU]}}
Lluniwyd y map genetig manylaf o'r Deyrnas Unedig hyd yn hyn gan y prosiect "Pobl Ynysoedd Prydain", a gafodd ei gyllido gan y Wellcome Trust a'i arwain gan ymchwilwyr o [[Prifysgol Rhydychen|Brifysgol Rhydychen]], [[Coleg Prifysgol Llundain]], a'r Murdoch Childrens Research Institute (Awstralia).<ref>"[https://www.peopleofthebritishisles.org/population-genetics Population genetics]", People of the British Isles, [[Prifysgol Rhydychen]]. Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.</ref><ref>{{eicon en}} "[http://www.ucl.ac.uk/news/news-articles/0315/180315-fine-scale-british-isle-genetic-map The first fine-scale genetic map of the British Isles]", [[Coleg Prifysgol Llundain]] (19 Mawrth 2015). Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.</ref><ref>{{eicon en}} "[http://theconversation.com/who-do-you-think-you-are-most-detailed-genetic-map-of-the-british-isles-reveals-all-38936 Who do you think you are? Most detailed genetic map of the British Isles reveals all]", The Conversation (19 Mawrth 2015). Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.</ref> Casglwyd DNA gan 2,039 o bobl yng ngefn gwlad Lloegr, yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon, a chanddynt i gyd teidiau a neiniau a oedd yn byw o fewn 80&nbsp;km i'w gilydd. Mae taid neu nain yn cyfrifo am 25% o [[genom]] yr unigolyn, felly roedd yr ymchwilwyr yn samplu DNA ar gyfer diwedd y 19g. Yn ogystal, casglwyd DNA gan 6,209 o bobl o 10 gwlad arall yn Ewrop. Cyhoeddwyd canlyniadau'r astudiaeth yn y cyfnodolyn ''Nature'' yn 2015. Gwelir tri chlwstwr genetig sydd yn unigryw i Gymru. Ymddangosai'r Cymry yn debycach i boblogaeth foreuaf Prydain, hynny yw y rhai a ymsefydlodd wedi diwedd [[Oes yr Iâ]] tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl, nag unrhyw bobl arall yng ngwledydd Prydain. Sylwir bod ymfudiad sylweddol ar draws [[Môr Udd]] yn sgil y garfan gyntaf o setlwyr, a cheir olion DNA y bobl hon yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond heb fawr o effaith yng Nghymru. Ac eithrio [[Ynysoedd Erch]], Cymru yw'r rhan o'r Deyrnas Unedig sydd fwyaf gwahanol i'r gweddill, ac mae'r wahaniaeth rhwng gogledd a de Cymru cymaint â'r wahaniaeth rhwng canolbarth a de Lloegr a gogledd Lloegr a'r Alban. Er bod y cenhedloedd Celtaidd i gyd yn wahanol i'r Saeson, maent hefyd yn wahanol iawn i'w gilydd, ac felly nid oes grŵp genetig unigol y gellir ei alw'n "Geltaidd". Mae'r [[Cernywiaid]] a'r [[Albanwyr]] yn perthyn yn agosach i'r Saeson nag ydynt i'r Cymry.<ref name=Nature>Stephen Leslie et al. "[https://www.nature.com/articles/nature14230 The fine-scale genetic structure of the British population]", ''Nature'' 519, tt. 309–314 (19 Mawrth 2015).</ref>
 
O ran y wahaniaeth genetig rhwng Cymru'r gogledd a Chymry'r de, credir taw [[daearyddiaeth Cymru|daearyddiaeth fynyddig Cymru]] sydd yn esbonio parhad y wahaniaeth ranbarthol hon, gan ei wneud yn anodd i bobl deithio o'r gogledd i'r de. Y ddaearyddiaeth hon hefyd a wnaeth rhwystro ymlediad genetig o Loegr, hynny yw DNA y Sacsoniaid, rhag cyrraedd y Cymry.<ref>{{eicon en}} "[http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-18489735 Welsh people could be most ancient in UK, DNA suggests]", [[BBC]] (19 Mehefin 2012). Adalwyd ar 15 Ebrill 2018.</ref> Ni chafwyd hyd i etifeddiaeth genetig ystyrlon gan y Rhufeiniaid, y Llychlynwyr, na'r Normaniaid yn y Cymry, nac yn wir mewn poblogaethau eraill y DU (ar wahân i Ynysoedd Erch, lle mae cyfran Lychlynnaidd o bwys yn DNA yr ynyswyr). Cafodd y tri chlwstwr genetig Cymreig eu dynodi gan yr ymchwilwyr yn "Gogledd Cymru", "Gogledd [[Sir Benfro]]", a "De Sir Benfro". Mae rhaniad y ddau glwstwr deheuol yn adlewyrchu [[ffin ieithyddol Sir Benfro]]: mae DNA y siaradwyr Cymraeg uwchben y ffin yn wahanol i'r siaradwyr Saesneg oddi tano. DNA "De Sir Benfro" sydd i'w gael yn ne ddwyrain Cymru a'r cymoedd. Yn ogystal, mae clwstwr "Gororau Cymru" sydd yn bennaf ar ochr Seisnig [[y ffin rhwng Cymru a Lloegr]], ac enghreifftiau ohonno yn ne Cymru.<ref name=Nature/>
 
== Hunaniaeth ==