Sevilla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
'''Sevilla''' (neu '''Seville''') yw prif ddinas artistaidd, diwyllianol ac ariannol de [[Sbaen]], ar lannau [[Afon Guadalquivir]] (37°22′38″Gog., 5°59′13″Gor.). Mae'n brifddinas [[Andalusia]] a thalaith [[Sevilla (talaith)|Sevilla]]. Gelwir dinesyddion y ddinas yn ''Sevillanos'' (benywaidd: ''Sevillanas''). Mae gan yr ardal ddinesig boblogaeth o 704,154 (amcanfyfrif 2005), neu 1,043,000 yn cynnwys ei bwrdeistrefi mewnol (amcangyfrif 2000), neu 1,317,098 am yr ardal fetropolitaidd gyfan (amcangyfrif 2005), sy'n ei gwneud yr ardal fetropolitaidd bedwaredd yn Sbaen. Mae ganddi borthladd eithaf pwysig ar y Guadalquivir sy'n agored i longau cefnfor.
Bu'n ddinas bwysig yn nhalaith [[Rhufeiniaid|Rufeinig]] [[Hispania Baetica]] a daeth yn ganolfan ddiwylliannol flodeuog yng nghyfnod teyrnas Mwraidd [[Al-Andalus]] ([[711]]
Mae gan y ddinas brifysgol, a sefydlwyd yn [[1502]], ac un o'r [[eglwys gadeiriol|eglwysi cadeiriol]] mwyaf yn y byd ([[1401]] - [[1591]]). Un o uchafbwyntiau calendr diwyllianol y ddinas yw'r Ŵyl Basg enwog. Mae Eglwys Gadeiriol Sevilla, yr Alcázar a'r Archivo de Indias yn [[Safle Treftadaeth y Byd]].
|