Y Forwyn Fair: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:La Anunciación, by Fra Angelico, from Prado in Google Earth - main panel.jpg|300px|bawd|Yr angel [[Gabriel]] yn cyhoeddi i Mair y bydd hi'n beichiogi ac yn esgor ar yr Iesu (llun gan [[Fra Angelico]])]]
 
Yn ôl y [[Testament Newydd]], roedd '''Mair''' (a elwir hefyd yn '''Santes Fair''' neu'r '''Forwyn Fair''') yn fam i [[Iesu Grist]]. Roedd hi'n briod â [[Sant]] [[Ioseff]] ac, yn ôl ffynonellau llai derbynnol, yn ferch i'r saint [[Joachim]] ac [[Ann]]. Mae [[Yr Efengyl yn ôl Luc|efengyl Luc]] yn adrodd sut y dysgodd Mair, a oedd yn forwyn (gwyryf) ar y pryd, gan yr [[archangel]] [[Gabriel]], negesydd oddi wrth [[Duw|Dduw]], ei bod hi'n mynd i roi [[geni'r Iesu|genedigaeth wyrthiol]] i Iesu Grist, Mab Duw.
 
Anrhydeddir y Santes Fair yn bennaf yn yr [[Eglwys Gatholig]], ac o fewn yr [[eglwys]] honno credir iddi gael ei llenwi â [[gras]] Duw ers ei genedigaeth (nid yw'r athrawiaeth hon yn golygu, fel mae rhai wedi ei dehongli, bod Mair hithau wedi cael ei geni yn wyryfol). Athrawiaeth ganolog arall i [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] Catholig yw'r [[Dyrchafiad]], hynny yw, bod corff Mair wedi codi i'r [[nefoedd]] wedi ei marwolaeth. Anrhydeddir hi hefyd o fewn [[Islam]]; ceir mwy am fywyd Mair yn y [[Coran]] nac yn y Testament Newydd.