Tiger Bay: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Tiger Bay: dociau Caerdydd can mlynedd yn ôl. :''Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd Tiger Bay (gwahaniaethu).'' '''Tige…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:36, 15 Ebrill 2009

Tiger Bay oedd yr enw hanesyddol am yr ardal o gwmpas porthladd Caerdydd, Cymru, yn cynnwys Tre-Biwt (Butetown). Ar un adeg hwn oedd un o borthladdoedd mwyaf prysur y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu ac yn cael ei hadnabod fel Bae Caerdydd. Ond mae llawer o bobol leol yn dal i'w alw yn Tiger Bay o hyd.

Tiger Bay: dociau Caerdydd can mlynedd yn ôl.
Erthygl am yr ardal hanesyddol yw hon. Gweler hefyd Tiger Bay (gwahaniaethu).

Hanes

Chwaraeodd datblygu Dociau Caerdydd ran bwysig yn hanes datblygu dinas Caerdydd ei hun o fod yn dref arfordirol fechan i fod yn ddinas fwyaf Cymru. Trwy'r dociau hyn yr allforwyd rhan helaeth glo Cymoedd y De i weddill y byd, ac ar un adeg porthladd Caerdydd oedd un o'r prysuraf yn y byd gyda 10,700,000 tunnell o lo yn cael ei allforio ohono erbyn 1913.

Tyfodd cymuned unigryw o gwmpas ardal y dociau; daeth gweithwyr y dociau a morwyr o bob rhan o'r byd i ymsefydlu yno a daaethpwyd i'w adnabod fel 'Tiger Bay' oherwydd y llifoedd cryf yn y dŵr rhwng y dociau ac Afon Hafren.

Yn Tiger Bay roedd yna bobl o tua 45 o genhedloedd, yn cynnwys Norwyaid, Somaliaid, Iemeniaid, Sbaenwyr, Eidalwyr, Gwyddelod a phobl o'r Caribî gan roi cymeriad amlddiwyllianol arbennig i'r ardal. Yn wahanol i hanes cymunedau o fewnfudwyr mewn dinasoedd mawr fel Efrog Newydd, ymododdai cymunedau Tiger Bay i'w gilydd, gyda phobl yn cymysgu a phriodi.

Y tu allan i'r gymuned, roedd gan Tiger Bay enw am fod yn ardal frwnt a pherygl. Un rheswm am hynny oedd y ffaith fod morwyr o bob rhan o'r byd yn aros yno dros dro wrth i'w llongau gael eu llwytho neu eu dadlwytho yn y dociau. Mewn canlyniad daeth Tiger Bay yn ardal golau coch adnabyddus]] ac roedd lefel trais a throsedd yn uchel hefyd a'r drwgweithredwyr yn dianc ar eu llongau o afael y gyfraith. Ond i'r bobl leol oedd yn byw yno ac yn ei adnabod roedd Tiger Bay yn lle cyfeillgar.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd byd trai ar lewyrch y dociau ac aeth Tiger Bay yn ardal ddifreintiedig gyda nifer o adeiladau gwag a dim gwaith.

Diwylliant a phobl

Yn y 19eg ganrif, yng ngweddill Cymru a'r tu hwnt, roedd gan Tiger Bay dipyn o enw fel lle garw. Daeth yr enw "Tiger Bay" yn rhan o fratiaith y morwyr ar draws y byd am unrhyw ardal gyffelyb.[1]

Canodd Meic Stevens am y 'Bay' a dociau Caerdydd.

Mae pobl o Tiger Bay yn cynnwys y gantores Shirley Bassey a'r pêl-droediwr rhyngwladol Ryan Giggs.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Dolenni allanol