Brech wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: os:Хæбуз |
B cywiro blwyddyn ei dilead |
||
Llinell 4:
V. major sy'n achosi'r ffurf fwyaf difrifol ar yr afiechyd, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra mae llai na 1% o'r rhai a effeithir gan ''V. minor'' yn marw.
Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC.. Yn ystod y [[18fed ganrif]], credir fod y frech wen yn lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd yn effeithio yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant oedd yn cael y frech yn marw. Erbyn yr [[20fed ganrif]] roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn
Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir [[America]]. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewtopeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r [[Inca]] a'r [[Aztec]]. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yn nghanol y [[18fed ganrif]], trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.
|