Fairbourne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Camsillafiad
ClecvolHAT (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 21:
|population=
}}
Pentref yn ne [[Gwynedd]] yw '''Fairbourne''' ({{Sain|Fairbourne.ogg|ynganiad}}). Yn anarferol iawn i bentrefi Gwynedd, nid oes enw [[Cymraeg]] arno. Defnyddir '''Friog''' weithiau fel enw Cymraeg Fairbourne, ond mewn gwirionedd mae Friog yn bentref ar wahân. Gelwid yr ardal yn "''Morfa Henddol''" cyn adeiladu'r pentref, a chredir fod yr enw Rowen wedi ei ddefnyddio am y pentref ar un adeg.
 
Saif Fairbourne yng nghymuned [[Arthog]] ar bwys y briffordd [[A493]] rhwng [[Dolgellau]] a [[Tywyn|Thywyn]]. Mae ar ochr ddeheuol aber [[Afon Mawddach]], gyferbyn a thref [[Abermaw]]. Sefydlwyd Fairbourne gan [[Arthur McDougall]], o'r teulu oedd yn cynhyrchu blawd McDougall's, fel pentref gwyliau glan-y-môr.