Yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 52:
Gwlad yng ngogledd orllewin [[Ewrop]] yw'r '''Alban''' (hefyd '''Sgotland''') ([[Gaeleg yr Alban]]: ''Alba''; [[Sgoteg]] a [[Saesneg]]: ''Scotland''). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r [[Brythoneg|Frythoneg]] Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r [[Fife]] i [[Mynwy|Fynwy]].<ref>Gwyddoniadur Cymru t. 31; Gwasg y Brifysgol; 2008</ref> Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd [[Prydain]], enwog am ei [[wisgi]]. Ar 18 Medi cynhaliwyd [[Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014]] a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015|Etholiad Cyffredinol]] lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.
[[Sant Andreas]], un o [[apostol]]ion [[Iesu Grist]], yw nawddsant yr Alban -
Siaredir dwy [[iaith]] frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg - [[Gaeleg]] a [[Sgoteg]]. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn [[tafodiaith|dafodiaith]] Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.
|