Eiconograffeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gwyddor symbolau, themâu, a chynnwys yn y celfyddydau gweledol yw '''eiconograffeg''' neu '''ddelw-arluniaeth'''. Mae'n crybwyll astudiaeth, adnabod,...'
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B gwa
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
Gwyddor symbolau, themâu, a chynnwys yn y [[celfyddyd]]au gweledol yw '''eiconograffeg''' neu '''ddelw-arluniaeth'''. Mae'n crybwyll astudiaeth, adnabod, disgrifiad, dosbarthiad, a dehongliad delweddau, ac eithrio'r pethau hynny sydd yn nodweddion arddull yr arlunydd a ffurf y celfyddydwaith. Gellir ei hystyried yn ffurf weledol ar [[esboniadaeth]].<ref>Peter Burke, "Iconography" yn ''The Fontana Dictionary of Modern Thought'', golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 296.</ref> Rhan o [[hanes celfyddyd]] yw eiconograffeg yn draddodiadol, a bellach mae'n berthnasol i feysydd eraill megis [[semioteg]] ac [[astudiaethau'r cyfryngau]].
 
Cyhoeddwyd yr astudiaethau eiconograffig cynharaf yn yr 16g, ar ffurf catalogau o arwyddluniau llenyddol er defnydd arlunwyr, megis yr ''Iconologia'' (1593) gan Cesare Ripa. Datblygodd eiconograffeg ar y cyd ag [[archaeoleg]] yn y 18g, trwy astudiaeth themâu a nodweddion cofebion [[yr Henfyd]]. Yn y 19g, daeth eiconograffeg yn gysylltiedig â chelfyddyd [[Cristnogaeth|Gristnogol]] yn hytrach na chelfyddyd hynafol. Ar droad y ganrif, ymddangosodd ysgol eiconograffig o hanesyddion celfyddyd, yn eu plith Émile Mâle ac Aby Warburg, mewn adwaith yn erbyn y beirniaid celf yn niwedd y 19g a oedd yn trafod ffurf ac nid cynnwys. Rhoddir yr enw [[eiconoleg]] ar y traddodiad hwn, sef "hanes y meddylfryd" o ran celfyddyd weledol drwy astudio'r cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol, ac hanesyddol. Yn yr 20g datblygodd eiconograffeg yn faes eang sydd yn cwmpasu celfyddyd seciwlar a chrefyddol, ac o bob cyfnod hanes, yn ogystal â chyfryngau gweledol newydd megis y [[ffilm|sinema]].
 
== Cyfeiriadau ==