Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad cod 2017
carennydd
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 39:
== Hunaniaeth ==
O ganlyniad i fewnfudo ers canol yr 20g, o [[Lloegr|Loegr]] yn bennaf, nid yw holl drigolion Cymru yn arddel hunaniaeth Gymreig. Mae rhai ymfudwyr yn [[cymhathiad diwylliannol|cymhathu'n ddiwylliannol]], trwy ddysgu'r Gymraeg neu drwy ddanfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Mae eraill yn glynu at eu hunaniaeth enedigol, neu yn uniaethu â diwylliannau lluosog. Mae nifer o ymfudwyr o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn mabwysiadu hunaniaeth Brydeinig ond nid Cymreig. Yn ôl [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011|Cyfrifiad 2011]], tua 2&nbsp;miliwn o breswylwyr Cymru a nododd eu bod yn Gymry, ac o'r rhain nododd 218,000 eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd. Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.<ref>"[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/20679373 Cyfrifiad 2011: Hunaniaeth ac Ethnigrwydd]", [[BBC]] (11 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.</ref> Ceir cydberthyniad cryf rhwng siaradwyr Cymraeg ac hunaniaeth Gymreig. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 25.4% o’r rhai a ddywedodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn gallu siarad Cymraeg. O'r rhai a ystyriodd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig a Phrydeinig, 20.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg. Dim ond 6% o'r rhai a ystyriodd fod eu hunaniaeth yn Seisnig yn unig a oedd yn gallu siarad Cymraeg.<ref>"[https://statiaith.com/blog/cyfrifiad-2011/siartiau-am-y-gymraeg-o-gyfrifiad-2011/hunaniaeth-genedlaethol/ Hunaniaeth genedlaethol]", Statiaith. Adalwyd ar 4 Ebrill 2018.</ref>
 
== Bywyd teuluol a phreifat ==
[[Delwedd:Mr a Mrs Owen Meredydd Williams' children eagerly awaiting Christmas - all ten of them (5204090433).jpg|bawd|Teulu mawr yn yr ystafell fyw adeg [[y Nadolig]] (1959).]]
=== Carennydd a'r teulu ===
Llinach ar ochr y fam a'r tad yw [[grŵp ceraint]] y Cymry. Perthnasau'r radd gyntaf, hynny yw rhieni, brodyr a chwiorydd, a phlant, yw'r pwysicaf oll. Hefyd yn bwysig mae perthnasau'r ail radd: neiniau a theidiau, modrabedd ac ewythrod, cefndyr a chyfnitherod, nithod a neiod, ac wyrion ac wyresau. Fel arfer mae pobl yn gyfarwydd â pherthnasau'r drydedd radd (brodyr a chwiorydd eu neiniau a theidiau, plant eu cefndyr a chyfnitherod, a phlant eu nithod a neiod) ac yn hanesyddol bu'r Cymry yn adnabod eu cefndyr o berthynas bellach: cyfyrderon, ceifnaint, gorcheifnaint, a gorchawon. Er nad oes [[tabŵ]] hanesyddol yng ngwledydd Prydain ynghlych priodas rhwng cefnder a chyfnither gyfan, mae hyn yn brin iawn ymhlith y werin Gymreig, er bod cyfyrderon neu berthnasau pellach weithiau'n priodi.<ref name=Gale>Robert J. Theodoratus, ''Encyclopedia of World Cultures'' (Gale, 1996).</ref>
 
Mae hen ffyrdd o enwi perthnasau gwaed ar wahân i berthnasau drwy briodas, ac weithiau mae enwau lleol unigryw. O ganlyniad i gydberthnasau estynedig rhwng gwahanol deuluoedd, mae hunaniaeth leol gryf sydd yn sylfaen i gymunedau hirsefydlog, yn enwedig yng nghefn gwlad a'r pentrefi. Mae rhai o'r henoed gwledig yn dal i allu olrhain achau eu cymdogion yn ôl can mlynedd neu fwy. Nodir undod a chydymddibyniad cymunedau Cymreig gan y gallu i deuluoedd adnabod eu cysylltiadau drwy waed a thrwy briodas i eraill yn yr ardal. O'r disgwyliadau cymdeithasol i gynorthwyo perthnasau a chymdogion y deillia'r ffyddlondeb sydd wedi creu cymunedau clos yng Nghymru.<ref name=Gale/>
 
Y [[teulu cnewyllol]], hynny yw y gŵr a'r wraig a'u plant, yw uned sylfaenol yr aelwyd. Yn y cefn gwlad, arferai'r meibion oedd mewn oed ond heb briodi fyw ar y fferm neu'r ystâd deuluol a gweithio'n ddi-dâl. Yn draddodiadol bu [[gweddw|gwraig weddw]], neu ŵr gweddw ac wedi ymddeol, yn byw gyda merch â'i gŵr hi. Ers yr Oesoedd Canol bu'r Cymry yn [[cymynrodd]]i rhywbeth i bob un o'r plant. Gadewir tir i un o'r meibion, gan amlaf yr olaf-anedig. Bu'r brodyr a chwiorydd hŷn yn derbyn eu hetifeddiaeth ar adeg eu priodasau, ac yn aml byddai hyn yn ddodrefn, tir neu dŷ wedi prynu, neu drysorau teuluol.<ref name=Gale/>
 
== Cymdeithas a diwylliant ==