Prifddinas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Prifddinas''' yw'r ddinas sy'n brif ganolfan llywodraeth mewn gwlad. Lleolir swyddfeydd y llywodraeth yno, a chynhelir cyfarfodydd y senedd a'r llywodraeth yno hefyd. [[Caerdydd]] yw prifddinas [[Cymru]]. Yn yr [[Unol Daleithiau]], [[Washington, D.C.]] yw'r brifddinas, ac mae [[Llundain]] yn brifddinas i'r [[Deyrnas Unedig]] a [[Lloegr]].
 
Mae gan bob gwlad yn y byd brifddinas; mae gan rai (er enghraifft, [[yr Iseldiroedd]]) fwy nag un. Yn aml, canolfan economaidd y wlad yw'r brifddinas hefyd. Enghreifftiau yw [[Paris]] yn [[Ffrainc]] a [[Moskva]] yn [[Rwsia]]. Mewn llawer o achosion, y brifddinas yw dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth, ond mae yna eithriadau, megis [[India]], [[ChinaTsieina]], [[Brasil]] ac [[Awstralia]]. Weithiau dewisir prifddinas newydd y tu allan i ardaloedd mwyaf poblog er mwyn osgoi datblygiad pellach yn yr ardaloedd hynny (gweler y map). Mae dinasoedd [[Brasilia]] ym Mrasil a [[Canberra]] yn Awstralia wedi'u cynllunio'n fwriadol fel prifddinasoedd newydd.
 
{{eginyn daearyddiaeth}}