Tsunami Cefnfor India 2004: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:2004-tsunami.jpg|bawd|dde|300px|Y Tsunami yng Ngwlad ThaiTai]]
 
Yn dilyn daeargryn yng [[Cefnfor India|Nghefnfor India]] am 00:58:53 UTC ar 26 Rhagfyr 2004, cafwyd [[Tsunami]] enfawr. Lleolwyd canolbwynt y daeargryn ar arfordir gorllewinol [[Sumatra]], [[Indonesia]]. Achosodd y daeargryn gyfres o tsunamis dinistriol ar hyd arfordiroedd y gwledydd ar lannau'r Môr Indiaidd. Gwelwyd tonnau o hyd at 30 metr (100 troedfedd) o uchder. Bu farw dros 225,000 o bobl mewn 11 gwlad, gyda miloedd mwy wedi eu hanafu gan golli eu holl eiddo. Effeithiodd ar arfordiroedd [[Indonesia]], [[Gwlad ThaiTai]], gogledd orllewin [[Maleisia]], [[Myanmar]], [[Bangladesh]], [[India]], [[Sri Lanca]], y [[Maldives]] ac hyd yn oed [[Somalia]], [[Cenia]], [[Tansanïa]] a'r [[Seychelles]] yn nwyrain [[Affrica]].
 
Mesurodd y daeargryn rhwng 9.1 a 9.3 ar [[Graddfa Richter|Raddfa Richter]] a dyma oedd yr ail ddaeargryn fwyaf erioed i gael ei gofnodi ar seismograff. Parhaodd y daeargryn am rhwng 8.3 a 10 [[munud]]. Achosodd i'r holl blaned ddirgrynnu cymaint a 1 cm (0.5 modfedd) gan achosi daeargrynfeydd eraill mor bell i ffwrdd ag [[Alaska]]. Gelwir y drychineb Daeargryn Fawr Sumatra-Andaman gan y gymuned wyddonol ond caiff ei alw'n Tsunami Asia a Tsunami Dydd San Steffan hefyd.Dyma oedd un o drychinebau naturiol mwyaf marwol erioed. O ganlyniad i'r drychineb mae [[UNESCO]] a chyrff eraill wedi galw am system fonitro a fydd yn gallu rhoi rhybudd bod tsunami ar ddigwydd fel ag sydd yn y [[Môr Tawel]].
Llinell 11:
Yn wreiddiol, dywedwyd fod gan y daeargryn faint moment o 9.0. Ym mis Chwefror 2005, adolygodd gwyddonwyr yr amcangyfrif gan ddod i gasgliad mai 9.3 oedd ei maint.<ref>McKee, Maggie. [http://www.newscientist.com/article/dn6991 "Power of tsunami earthquake heavily underestimated."] New Scientist. Chwefror 9, 2005.</ref> Er fod Canolfan Rhybuddio Tsunami'r Cefnfor Tawel yn derbyn y rhifau newydd hyn, hyd yma nid yw Arolwg Geolegol yr Unol Daleithiau wedi newid eu hamcangyfrif o 9.1. Dywed astudiaethau mwy diweddar yn 2006 fod gan y tsunami faint o Mw 9.1 i 9.3. Cred Dr. Hiroo Kanamori o Ganolfan Dechnoleg Califfornia fod Mw = 9.2 yn werth cynrychioladol da ar gyfer daeargryn o'r maint hwn.<ref>Cyhoeddiad EERI 2006–06, td 14.</ref>
 
Roedd hypoganol y brif ddaeargryn yn 3°18′58″Gog 95°51′14″Dw / 3.316°Gog 95.854°Dw / 3.316; 95.854, oddeutu 160&nbsp;km (100&nbsp;mi), yng Nghefnfor India, ychydig i'r gogledd o ynys [[Simeulue]], oddi ar arfordir gorllewinol gogledd [[Sumatra]], ar ddyfnder o 30 Km (19&nbsp;mi) o dan lefel y mor. Teimlwyd y daeargryn ei hun mor bell i ffwrdd a [[Bangladesh]], [[India]], [[Maleisia]], [[Myanmar]], [[Gwlad ThaiTai]], [[Singapôr]] a'r [[Maldives]].
 
== Rhybuddion ac arwyddion ==
Llinell 20:
Yn sgîl y drychineb, cynyddodd ymwybyddiaeth am yr angen am system rhybuddio am tsunami yng Nghefnfor India. Dechreuodd y [[Cenhedloedd Unedig]] weithio ar System Rybuddio Tsunami Cefnfor India ac erbyn 2005, roedd y camau cychwynnol yn eu lle. Mae rhai pobl wedi cynnig creu system rybuddio tsunami unedig byd-eang, a fyddai'n cynnwys Mor yr Iwerydd a'r Caribi.
 
[[Delwedd:KataNoiReceding.jpg|bawd|chwith|Y tonau'n encilio ar draeth Kata Noi, [[Gwlad ThaiTai]]]]
Y rhybudd cyntaf am tsunami posib yw'r daeargryn ei hun. Fodd bynnag, gall tsunami ddigwydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd o ganolbwynt y daeargryn ei hun, mewn man lle prin yw effaith y daeargryn. Hefyd, yn ystod y munudau cyn i tsunami daro, bydd y mor yn mynd allan o'r arfordir dros dro. Ar lannau Cefnfor India, achosodd hyn i drigolion lleol, yn enwedig plant, i fynd i'r traeth i ymchwilio ac i gasglu pysgod a adawyd ar y tywod. Aeth y mor allan cymaint a 2.5&nbsp;km (1.6 milltir) ac wrth i bobl fynd ar y rhan hwn o'r traeth, cafwyd canlyniadau trychinebus.<ref>{{eicon en}}Block, Melissa. [http://www.npr.org/templates/story/story.php?storyId=4246573 "Sri Lankans Seek Lost Relatives After Tsunami."] All Things Considered/NPR. Rhagfyr 27, 2004.</ref>
 
Un o'r ychydig ardaloedd arfordirol a wacawyd cyn y tsunami oedd yr ynys Indonesaidd, Simeulue, a oedd yn agos iawn i ganolbwynt y daeargryn. Ar draeth Maikhao yng ngogledd [[Phuket]], [[Gwlad ThaiTai]] roedd merch deg oed o'r Deyrnas Unedig, Tilly Smith wedi astudio tsunamis yn ei gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol. Adnabyddodd yr arwyddion pan welodd y mor ar drai a rhybuddiodd hi a'i rhieni eraill ar y traeth, gan gynorthwyo i wacau'r traeth.<ref>{{eicon en}}James Owen [http://news.nationalgeographic.com/news/2005/01/0118_050118_tsunami_geography_lesson.html Tsunami Family Saved by Schoolgirl's Geography Lesson] National Geographic. 2005-01-18. Adalwyd 2009-05-01</ref>
 
=== Y cylch encilio a chodi ===