Bhatarsaigh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|right|275px|Bae Bhatarsaigh Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw '''Bhatarsaigh''' (Saesneg: ''Vatersay'').…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:29, 29 Mai 2009

Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Bhatarsaigh (Saesneg: Vatersay). Bhatarsaigh yw enw'r unig bentref ar yr ynys hefyd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 94.

Bae Bhatarsaigh

Bhatarsaigh yw ynys boblog fwyaf gorllewinol yr Alban. Fe'i cysylltir ag ynys Barra gan gob a adeiladwyd yn 1991. Ceir caer o Oes yr Haearn ar yr ynys. Ar 28 Medi 1853, drylliwyd y llong Annie Jane, oedd yn cario mewnfudwyr o Lerpwl i Montreal, ar greigiau'r ynys. Boddwyd 350 o'r 450 o bobl oedd arni.