Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ffynonellau
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Diwylliant: goroesi, seisnigo
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 120:
 
== Diwylliant ==
Os ystyrir [[#Diffinio'r Cymry|hanes cysyniadol y gair Cymry]], nid yw [[diwylliant]] y Cymry neu ddiwylliant Cymreig yn gyfystyr â [[diwylliant Cymru]], sydd yn gyfwng i ffiniau daearyddol. Bodolai diwylliant y Cymry yn y rhannau o'r byd sydd yn gartref i'r Cymry ar wasgar, yn ogystal â'r famwlad. I'r sawl grŵp o bobl a ymgeisiodd sefydlu cymunedau Cymraeg tramor yn y 19g, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig oedd yn diffinio cymdeithas o Gymry, nid tir y wlad a elwir Cymru. Er hynny, mae [[Hanes Cymru|hanes]] a [[Daearyddiaeth Cymru|daearyddiaeth]] y wlad wrth gwrs wedi ffurfio a phennu diwylliant y Cymry, ac mae'n rhaid ystyried nid yn unig etifeddiaeth a thraddodiadau unigryw y Cymry hanesyddol ond hefyd diwylliant y Cymry cyfoes, sydd wedi ei drawsnewid gan effeithiau [[modernedd]] ac sydd yn rhannu sawl agwedd o fywyd â gwledydd eraill [[byd y gorllewin]].
{{gweler|Diwylliant Cymru|Diwylliant Cymraeg}}
 
Er gwaethaf gorchfygiad milwrol, gwleidyddol a chyfreithiol y Cymry gan y Saeson ers sawl canrif, goroesodd y diwylliant brodorol heb i'r Cymry colli eu hunaniaeth. Y Gymraeg oedd prif iaith y wlad nes y 19g, a pharhaodd draddodiadau, mytholeg, a chof gwlad ymhlith y werin. Meddai'r hanesydd [[Rees Davies]] ei fod yn bosib taw tra-arglwyddiaeth y Sais sydd i ddiolch am gryfhau hunaniaeth ddiwylliannol y Cymry, gan iddi greu Prydeindod sydd yn gyfystyr â Seisnigrwydd, ac felly sicrhau arwahanrwydd diwylliannau'r Cymry, yr Albanwyr a'r Gwyddelod.<ref>Rees Davies, "[http://www.bbc.co.uk/history/british/middle_ages/culture_preserved_01.shtml Wales: A Culture Preserved]", [[BBC]]. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2018.</ref> Traddodir y llwyddiant diwylliannol hwn gan drydydd pennill yr anthem genedlaethol: <blockquote>"Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,<br/>Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,<br/>Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,<br/>Na thelyn berseiniol fy ngwlad."</blockquote>
 
Er i ddiwylliant y bobl oroesi, cafodd ei [[Seisnigo]] yn raddol ac yna'n sylweddol yn sgil cynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Saesneg yn y 19g a'r 20g. Daeth hyn o ganlyniad i gyfnod hir o [[imperialaeth ddiwylliannol]] ar y cyd â darostyngiad gwleidyddol, ac ymddangosai'r profiad Cymreig yn rhywbeth o fodel i goloneiddwyr a llywodraethwyr [[yr Ymerodraeth Brydeinig]]. Mae sawl un wedi sylwi ar ôl-effeithiau'r fath imperialaeth ar seicoleg y genedl Gymreig, yn eu plith Michael Hechter a'i ddadansoddiad o'r "ymylon Celtaidd" fel trefedigaethau mewnol yn y Deyrnas Unedig<ref>Michael Hechter, ''Internal Colonialism: The Celtic Fringe in British National Development'' (1975).</ref> a'r ysgolheigion sydd wedi ceisio ymdrin ag hanes Cymru â'i phobl o safbwynt [[ôl-drefedigaethrwydd]]. Gan dynnu ar waith yr athronwyr Ffrengig Badiou a Bourdieu ynghylch "imperialaeth y cyffredinol", meddai Richard Glyn Roberts bod y wladwriaeth Brydeinig wedi dyrchafu'r iaith Saesneg a diwylliant Prydeinig, neu Seisnig, yn drefn gyffredinol yng Nghymru trwy addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus, a chyda chymorth y cyfryngau, ac mae diwylliant brodorol y Cymry wedi derbyn [[gwarthod]] yr "ethnig".<ref>Richard Glyn Roberts, "Cenedlaetholdeb: Gwireddu'r genedl ac atgynhyrchu gormes" yn Simon Brooks a Richard Glyn Roberts, ''Pa beth yr aethoch allan i'w achub?'' (2013).</ref> Mae nifer o Gymry, Cymraeg a Saesneg eu hiaith fel ei gilydd, yn pryderu am ragor o [[Seisnigo]] ac [[Americaneiddio]] yng Nghymru ac effeithiau [[globaleiddio]] ar ddiwylliant cynhenid y wlad. Er bod Cymry'r 21g yn meddu ar rywfaint o ymreolaeth yn y Gymru ddatganoledig, gwelir rhagor o Seisnigo drwy fewnfudo a dirywiad y Gymraeg yn ffurfiau ar [[neo-wladychiaeth]]. Bu mewnfudiad anferth o bobl ddi-Gymraeg, y mwyafrif ohonynt yn Saeson, i ardaloedd Cymraeg yn yr 20g, ac o ganlyniad câi'r diwylliant cynhenid ei ymyleiddio ar y cyd â'r effeithiau economaidd a chymdeithasol ar draul y bobl leol.
 
=== Mytholeg a chwedloniaeth ===
{{prif|Mytholeg Gymreig}}