Dorothy Squires: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen Cerddorion
Cantores oedd '''Dorothy Squires''' ('''Edna May Squires''') ([[25 Mawrth]] [[1915]] – [[14 Ebrill]] [[1998]]).
| enw = Dorothy Squires
| delwedd =
| pennawd =
| cefndir = musiker
| enwgenedigol = Edna May Squires
| enwarall =
| geni = {{dyddiad geni ac oedran|1915|25|3}}
| llegeni = {{Baner|Cymru}} [[Pontyberem]], [[Sir Gaerfyrddin]]
| math = Cerddoriaeth bop traddodiadol
| galwedigaeth = [[Cantores]],
| offeryn = Llais
| blynyddoedd = 1936 - 1990
| label = [[Polygon Records]], [[Columbia Records]
| cysylltiedig =
| dylanwadau =
| URL = [http://www.madonna.com/]
| aelodaupresenol =
| cynaelodau =
| prifofferynau =
}}
Cantores Gymreig oedd '''Dorothy Squires''' ('''Edna May Squires''') ([[25 Mawrth]] [[1915]] – [[14 Ebrill]] [[1998]]). Ymhlith ei chaneuon enwocaf oedd "A Lovely Way to Spend an Evening", "I'm in the Mood for Love", "Anytime", "If You Love Me (Really Love Me)" a "And So to Sleep Again".
 
==Ei bywyd cynnar==
Cafodd ei geni mewn carafan ym [[Pontyberem|Mhontyberem]] sydd rhyw 12 milltir o [[Llanelli|Lanelli]]. Roedd ei thad Archibald James Squires yn weithiwr dur, ac enw ei mam oedd Emily. Dechreuodd ganu yn broffesiynol pan oedd yn 16 oed.
 
Pan yn blentyn, roedd Squires eisiau piano ond prynodd ei mam [[iwcalili]] iddi. Tra'n gweithio yn y ffatri tin plat, dechreuodd berfformio'n broffesiynol pan oedd yn 16 oed, gan ganu yng nghlwb gweithwyr gwrywaidd Pontyberem.
Priododd yr actor [[Roger Moore]] yn [[1953]].
 
===Gyrfa===
 
Penderfynodd Squires ddilyn ei breuddwyd gan symud i [[Llundain|Lundain]], lle gweithiodd fel [[nyrs]]. Mynychodd glyweliadau am gyfer swyddi amrywiol ac yno cyfarfu â [[Joe Jay]], asiant a lwyddodd i gael gwaith iddi mewn clybiau nos. Tra'n gweithio yn Nwyrain Llundain, rhoddwyd yr enw llwyfan 'Dorothy' iddi. Hoffai'r enw hwn a defnyddiodd yr enw pan oedd yn perfformio ar lwyfan o hyn allan.
 
Gwnaeth Squires y rhan fwyaf o'i gwaith gyda cherddorfa Billy Reid, a oedd yn bartner iddi am nifer o flynyddoedd. Ar ôl iddi ymuno â'i gerddorfa ym 1936, dechreuodd Reid gyfansoddi caneuon ar ei chyfer - a honnodd Squires iddi golli ei [[gwryfdra]] i Reid hefyd.
 
===Roger Moore==
Pan ddaeth ei pherthynas â Reid i ben, priododd Squires yr actor Seisnig [[Roger Moore]] yn [[New Jersey]] ym 1953. Roedd ef ddeuddeg mlynedd yn iau na hi ond parhaodd y briodas tan 1961. Roedd y ddau yn byw ac yn gweithio arwahan (yn [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] a [[Hollywood]] am gyfnodau hirion, ac o ganlyniad gadawodd Moore Squires, gan fynd i fyw gyda [[Luisa Mattioli]]. Ni fedrai Moore briodi Mattioli yn gyfreithlon tan i Squires gytuno i gael ysgariad ym 1969 - ar yr union ddiwrnod y cafwyd Squires yn euog o yfed a gyrru.
 
Dychwelodd Squires i fyw yn y DU, lle adfywiwyd ei gyrfa ar ddiwedd y [[1960au]] a hithau'n 55 oed. Aeth tair o'i senglau i 40 Uchaf y DU, gan gynnwys ei fersiwn hi o "My Way". Arweiniodd hyn at albymau newydd a chyngherddau gan gynnwys cyfres o gyngherddau a werthodd allan ym [[Paladiwm Llundain|Mhaladiwm Llundain]]. Squires ei hun a logodd y Paladiwm am gyfres o sioeau, a chafodd nifer o bobl syndod fod yr holl docynnau wedi gwerthu mewn cyfnod mor fyr. Rhyddhawyd albwm dwbl o'r digwyddiad.
 
==Senglau llwyddiannus==
*"[[I'm Walking Behind You]]" (1953) - [[Siart Senglau'r DU|DU]] # 12
*"Say It With Flowers" (1961) - # 23 yn y DU (gyda [[Russ Conway]])
*"[[For Once in My Life]]" (1969) - # 24 yn y DU
*"[[Till (cân)|Till]]" (1970) - # 25 yn y DU
*"[[My Way (cân)|My Way]]" (1970) - # 25 yn y DU
 
==Dolenni allanol==
*[http://web.archive.org/web/20021215002034/http://home.wxs.nl/~bulteman/Squires/dorothy_squires.htm Hanes Dorothy Squires]
*[http://www.webfantastic.co.uk/dorothybiography.html Bywgraffiad Webfantastic.co.uk]
*[http://www.dorothysquires.co.uk/ Gwefan Dorothy Squires]
 
{{eginyn Cymry}}