Ernie George: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Ernie George"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:02, 6 Gorffennaf 2018

Chwaraewr rygbi'r undeb i dim cenedlaethol Cymru oedd Ernest "Ernie" Edward George (1871 – 28 November 1952).[1] Chwaraeodd dros nifer o glybiau yn ystod ei yrfa, ond mae'n cael ei gysylltu'n bennaf a Phontypridd a Chaerdydd. Cafodd dri chap dros Gymru rhwng 1895 a 1896.

Gyrfa rygbi

Dechreuodd George, a oedd yn saer maen o ran ei alwedigaeth, ei yrfa rygbi gyda chlwb Llanilltud Fawr,[2] ond aeth oddi yno i chwarae i Bontypridd. Yn ystod ei gyfnod gyda Phontypridd y cafodd ei ddewis gyntaf i chwarae dros dim cenedlaethol Gymru. Chwaraeodd yn y pac yn y gem yn erbyn yr Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Gwledydd Cartref yn 1895. Roedd George yn un o ddau oedd flaenwr oedd yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf yn y gem honno; Tom Pook o Gasnewydd oedd y llall. Bu'n gem agos a orffennodd gyda Chymru yn colli o 4-5, ac yn wynebu gem olaf yn erbyn Iwerddon i benderfynu pa un ohonynt fyddai'n cael y llwy bren. Cafodd George ei ddewis eto ar gyfer y gem yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau. Roedd honno'n gem agos hefyd, gyda Chymru yn ennill am iddyn nhw lwyddo i drosi eu hunig gais. Chwaraeodd George un gem ryngwladol arall, sef gem agoriadol Pencampwriaeth 1896 oddi cartref yn erbyn Lloegr. Cafodd Cymru grasfa, gyda Lloegr yn sgorio saith cais a Chymru'n methu a chroesi'r llinell o gwbl. Canlyniad hynny oedd newid chwech o'r wyth blaenwr ar gyfer y gem nesaf. Roedd George ymhlith y chwech, ac felly y daeth ei yrfa ryngwladol i ben. 

Gemau rhyngwladol a chwaraewyd

Llyfryddiaeth

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. London: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, Terry (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. London: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeirnodau

  1. Ernie George player profile scrum.com
  2. The Major Influence Walesonline 23-01-08