Parc yr Arfau
Stadiwm chwaraeon yng Nghaerdydd yw Parc yr Arfau (Saesneg: Cardiff Arms Park).
Math | stadiwm amlbwrpas |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1882 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4797°N 3.1836°W |
Perchnogaeth | Cardiff Athletic Club |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ar un adeg roedd y safle yn gae corsiog oedd yn eiddo i Ardalydd Bute. Dywedodd yr Ardalydd mai dim ond ar gyfer chwaraeon yr oedd i'w ddefnyddio, ac erbyn y 1880au roedd maes rygbi a maes criced yno. Dros y blynyddoedd, bu'r safle yn gartref i lawer o chwaraeon eraill hefyd.
Yma yr oedd cartref Clwb Criced Sirol Morgannwg hyd 1966. Dechreuodd adeiladu stadiwm cenedlaethol newydd ar y safle yn 1967, ar gost o £9 miliwn. Roedd yn dal 56,000 o bobl. At y stadiwm yma y cyfeirir pan yn sôn am "Barc yr Arfau" fel rheol. Yma yr oedd Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn chwarae ei gemau cartref, a Chlwb Rygbi Caerdydd yn parhau i ddefnyddio'r hen faes rygbi, Maes Rygbi Caerdydd.
Yn 1999, agorwyd Stadiwm y Mileniwm ar y safle, a dymchwelwyd yr hen stadiwm cenedlaethol. Daeth hwn yn gartref newydd y tîm rygbi cenedlaethol. Ar hyn o bryd mae tîm rygbi rhanbarthol Gleision Caerdydd yn parhau i ddefnyddio Maes Rygbi Caerdydd, ond cyhoeddwyd yn 2007 y byddent yn symud i stadiwm newydd yn 2009.